Mae graffeg gyfrifiadurol yn lluniau a ffilmiau a grëir gan ddefnyddio cyfrifiaduron.
Fel arfer, mae'r term yn cyfeirio at ddata delwedd a gynhyrchir gan gyfrifiadur a gynhyrchir gyda chymorth caledwedd a meddalwedd graffig arbenigol. Mae'n un o'r meysydd oddi mewn i wyddoniaeth gyfrifiadurol sydd wedi'i ddatblygu'n helaeth ers tua'r 1980au. Cafodd yr ymadrodd ei fathu yn 1960, gan yr ymchwilwyr graffeg cyfrifiadurol Verne Hudson a William Fetter o'r cwmni awyrennau, Boeing. Yn aml caiff ei fyrhau fel "CG" (computer graphics), ond weithiau ychwanegir y gair "imagery" (delweddiaeth) ato'n ddiangen, i greu'r byrfodd "CGI". Dywedir, weithiau, fod graffeg cyfrifiadurol yn cynnwys popeth ar wahân i destun a sain.
Ymlith y pynciau o fewn y maes hwn mae: dylunio rhyngwyneb ar gyfer y defnyddiwr, graffeg sprite, graffeg fector, modelu 3D, cysgodion a golau, dylunio GPU, dargopïo gyda phelydrau (ray tracing), golwg cyfrifiadurol a llawer rhagor. Mae'r fethodoleg yn dibynnu'n helaeth ar y gwyddorau sylfaenol o geometreg, opteg, a ffiseg.
Graffeg cyfrifiadurol sy'n gyfrifol am arddangos a chyfleu data celf a delweddau'n effeithiol, yn ddeniadol ac yn ystyrlon i'r defnyddiwr. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer prosesu data delwedd a dderbynnir o'r byd real. Mae datblygiad graffeg cyfrifiadurol wedi cael effaith sylweddol ar sawl cyfrwng ac mae wedi chwyldroi animeiddio, ffilmiau, hysbysebu, gemau fideo a dylunio graffig yn gyffredinol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Graffeg gyfrifiadurol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.