Roedd Syr George Tyler KH, (28 Rhagfyr 1792 - 4 Mehefin 1862) yn swyddog yn Llynges Frenhinol Prydain, yn llywodraethwr trefedigaethol ac yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Sir Forgannwg.
George Tyler | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1792 |
Bu farw | 4 Mehefin 1862 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog yn y llynges |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Charles Tyler |
Mam | Margaret Leach |
Priod | Harriet Sullivan |
Plant | Louisa Tyler, Augustus Tyler, Harriet Tyler, Anne Maria Tyler, George Henry Tyler, Charles Frederick Tyler, Gwinnett Tyler, Edward Octavious Tyler, Alfred Tyler, John Hobart Tyler, St. Vincent Tyler, Caroline Tyler |
Ganwyd Tyler ym Mhenfro yn fab hynaf y Llyngesydd Charles Tyler.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Llynges Frenhinol Portsmouth.
Priododd, ar 21 Medi 1819, Harriet Margaret, merch y Gwir Anrh. John Sullivan, a'r Ledi Harriet, merch George, trydydd iarll Swydd Buckingham; bu iddynt saith mab a phedair merch. Roedd eu merch, Caroline, yn fam i Windham Henry Wyndham-Quin, AS De Morgannwg 1895 - 1906.
Wedi cyfnod o dair blynedd o hyfforddiant yng Ngholeg y llynges daeth Tyler yn aelod llawn o'r llynges ym 1809. Ym 1811 bu'n ymladd yn erbyn y llynges Ffrengig ym Mae Kiberen oddi ar arfordir Llydaw pan gollodd ei fraich dde, derbyniodd pensiwn gan y llywodraeth o £200 y flwyddyn am yr anaf, ond parhaodd ei yrfa yn y llynges. Gwasanaethodd fel Rhaglaw'r Lluman ar long ei dad oddi ar arfordir Penrhyn Gobaith Da, De'r Affrig cyn cael ei godi'n Comander ym 1815 ac yn Gapten ym 1822. Rhwng 1833 a 1840 gwasanaethodd fel rhaglaw lywodraethwr Ynys St Vincent. Daeth yn llyngesydd wrth gefn ym 1852, ac yn is-lyngesydd ym 1857.
Pan ddyrchafwyd Edwin Wyndham-Quin i Dŷ'r Arglwyddi ym 1851 etholwyd Tyler yn ddiwrthwynebiad i'w olynu fel yr Aelod Seneddol Ceidwadol. Cadwodd ei sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1852 ac ymneilltuodd o'r Senedd ar adeg etholiad 1857.
Penodwyd Tylor yn Farchog yn yr Urdd Guelphic ym 1833 a'i urddo'n Farchog ym 1838 fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth wrth drefnu rhyddfreinio caethion St Vincents.
Bu farw yng Nghastell Dwnrhefn, cartref y teulu Wyndham-Quin yn 69 mlwydd oed.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edwin Wyndham-Quin | Aelod Seneddol Sir Forgannwg 1851 – 1857 | Olynydd: Henry Hussey Vivian |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article George Tyler, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.