Nofelydd nofelau ffantasi, awdur straeon byrion, sgriptiwr a chynhyrchydd teledu o Americanwr yw George Raymond Richard Martin (ganwyd 20 Medi 1948).
Ei gampwaith yw A Song of Ice and Fire, cyfres o nofelau ffantasi epig a addaswyd gan Home Box Office (neu HBO) yn rhaglen deledu, Game of Thrones. Mae Martin yn gyd-gynhyrchydd y rhaglen honno ac yn sgriptio un bennod i bob cyfres o'r rhaglen.
George R. R. Martin | |
---|---|
Ganwyd | George Raymond Martin 20 Medi 1948 Bayonne, New Jersey |
Man preswyl | Santa Fe |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu, nofelydd, dramodydd, blogiwr, awdur ffuglen wyddonol, rhyddieithwr, golygydd cyfrannog, cynhyrchydd ffilm |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | A Song of Ice and Fire, A Song for Lya and Other Stories, The Armageddon Rag, Dying of the Light |
Arddull | uwch ffantasi, ffantasi, gwyddonias |
Prif ddylanwad | William Faulkner, J. R. R. Tolkien, Stan Lee, Tad Williams, William Shakespeare, Howard Phillips Lovecraft |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Partner | Lisa Tuttle |
Gwobr/au | Gwobr Nebula am Nofelig Orau, Gwobr Hugo am y Nofelig Orau, Gwobr Hugo am y Nofel Fer Orau, Gwobr Hugo am y Stori Fer Orau, Gwobr Nebula am Nofelig Orau, Seiun Award for Best Translated Short Story, Locus Award for Best Collection, Locus Award for Best Collection, Gwobr Locus am y Nofelig Orau, Gwobr Locus i'r Nofelig Orau, Gwobr Locus am y Stori Fer Orau, Gwobr Locus i'r Nofelig Orau, Gwobr Locus am y Nofelig Orau, Gwobr Locus am y Nofelig Orau, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Hugo am y Nofel Fer Orau, Premio Gigamesh, Geffen Award, gwobr Ignotus am y Nofel Estron Orau, gwobr Ignotus am y Nofel Estron Orau, gwobr Ignotus am y Nofel Estron Orau, Gwobr Inkpot, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Hir |
Gwefan | http://www.georgerrmartin.com/ |
llofnod | |
Cafodd ei enwi'n George Raymond Martin a chyfeirir ato'n aml fel GRRM.
Yn 2005 galwodd yr awdur Lev Grossman ef "y Tolkien Americanaidd." ac ychydig yn ddiweddarach galwodd y cylchgrawn ef yn "un o gant person mwyaf dylanwadol y byd."
Dewisiodd a mabwysiadodd yr enw canol 'Richard' pan oedd yn 13 oed. Roedd yn fab i'r hanner-Eidalwr Raymond Collins Martin a'i wraig Margaret Brady Martin, a oedd yn hanner-Gwyddeles. Roedd ganddo ddwy chwaer, Darleen a Janet. ac roedd gan y teulu berthnasau oedd yn hannu o'r Almaen, Lloegr a Ffrainc.
Mae'n debyg iddo gychwyn darllen gan nad oedd y teulu wedi teithio rhyw lawer, a darllenai'n eang am wledydd y byd. Dechreuodd sgwennu'n ifanc iawn a gwerthodd storiau i blant pan oedd yn arddegwr.
Derbyniod radd mewn newyddiaduriaeth o Brifysgol Northwestern, Illinois yn 1970 a gradd Meistr yn yr un pwnc a choleg yn 1971.
Cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod Rhyfel Fietnam. gan weithio'n wirfoddol rhwng 1972–1974.
Mae'n chwaraewr gwyddbwyll arbennig o dda a chyfarwyddodd gemau'r Gymdeithas Wyddbwyll Gyfandirol rhwng 1973 a 1976.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article George R. R. Martin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.