Game Of Thrones

Cyfres deledu ffantasi ydy Game of Thrones a grewyd ar gyfer HBO gan David Benioff a D.

B. Weiss. Mae'r gyfres deledu'n addasiad o gyfres o nofelau A Song of Ice and Fire gan George R. R. Martin, ac enw'r llyfr cyntaf oedd A Game of Thrones. Cafodd y gyfres deledu ei ffilmio mewn stiwdios yn Belfast a mannau eraill yng Ngogledd Iwerddon, Malta, Croatia, Gwlad yr Iâ, Moroco, Yr Alban, Sbaen a'r Unol Daleithiau. Cafodd ei lansio ar sianel HBO yn yr UDA ar 17 Ebrill 2011 a darlledwyd y bennod olaf un ar 19 Mai 2019, gyda 73 pennod dros wyth cyfres. Yng ngwledydd Prydain mae'n cael ei ddarlledu ar sianel Sky Atlantic.

Game Of Thrones
Logo
Game Of Thrones
George R.R. Martin, awdur y llyfr a'r gyfres deledu.

Yn 2011-3 ystyriwyd y gyfres fel prif ysbrydoliaeth y genre ffantasi ac yn gyfrifol am ei boblogeiddio drwy Ewrop ac UDA. Mae'n cynnwys enwau Cymraeg a lled-Gymraeg, ac i raddau'n debyg i nofelau J. R. R. Tolkien, ac mae ynddo lawer iawn o olygfeydd o bobl noeth, rhyw a llosgach. Roedd Sean Bean yn actio un o'r prif rannau yn y gyfres gyntaf: Lord Eddard "Ned" Stark, pennaeth y teulu Stark a Peter Dinklage yn actio'r corrach Tyrion. Kit Harington sy'n chwarae rhan Jon Snow yn y gyfres, ac mae Emilia Clarke hefyd yn serennu fel Daenerys Targaryen.

Ymddangosodd nifer o actorion Cymreig yn y gyfres. Rhwng 2011–2016 bu Owen Teale yn chwarae'r cymeriad Ser Alliser Thorne a bu Mark Lewis Jones yn chwarae Shagga yn nhair pennod cyntaf y gyfres gyntaf Chwaraeodd Iwan Rheon rhan y seicopath sadistaidd Ramsay Snow – the Bastard of Bolton mewn 20 pennod rhwng 2013 a 2016.

Cast

Beirniadaeth

Mewn adolygiad yn y Times dywedodd Caitlin Moran, "Game of Thrones is one of the most thrilling TV shows ever made."

Cyfeiriadau

Tags:

A Game of ThronesA Song of Ice and FireBelfastCroatiaFfantasiGeorge R. R. MartinGogledd IwerddonGwlad yr IâMaltaMorocoNofelSbaenUDAUnol Daleithiau AmericaYr Alban

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CwningenYr Eisteddfod Ryng-golegol16eg ganrif533Winslow Township, New JerseyJapanegRhestr ysgolion uwchradd yng Nghymru530auGerallt Pennant25 RhagfyrCillian Murphy737Ymerawdwr RhufainEglwys Gadeiriol TyddewiIestyn ap Gwrgant10 ChwefrorCyfrifiadurTeleduGaranTelford a WrekinIeithoedd CeltaiddDe Clwyd (etholaeth Senedd Cymru)FfilmRhif Llyfr Safonol RhyngwladolMaloGwylan fodrwybigLove Jones-ParryPennsylvaniaCynhaiarn22 MediOrange, De Cymru NewyddRhagfyrLlythur ir Cymru cariadusAwstriaLizzie SpikesEnfys9gUnol Daleithiau AmericaNon1067Hilma af KlintGwlad PwylCalonCadogWynford Ellis OwenOrdofigaiddLlywodraeth leol yng NghymruArianwenHeloísa PinheiroFleur de LysOsloSahra WagenknechtRhyngwladoli a lleoleiddioHawlfraintRhyw rhefrolConwy (etholaeth seneddol)Pobol y CwmSafleoedd rhywSex TapeSantReisFideoUsenetArlunydd1220DurlifPopty microdonCapel Celyn🡆 More