Dinas yn yr Algarve ym Mhortiwgal yw Faro.
Poblogaeth Faro yn 2019 oedd 60,995. Maint Faro yw 202.57 cilomedr sgwâr.
Math | bwrdeistref Portiwgal, dinas Portiwgal |
---|---|
Poblogaeth | 64,560 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Rogério Bacalhau |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Faro |
Gwlad | Portiwgal |
Arwynebedd | 202.57 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 10 metr |
Yn ffinio gyda | Loulé, Olhão, São Brás de Alportel |
Cyfesurynnau | 37.0161°N 7.935°W |
Cod post | 8000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Rogério Bacalhau |
Denodd Ria Formosa pobl o’r Oes Balaeolithig hyd at ddiwedd cynhanes, a ffurfiwyd pentrefi o’r bedwaredd ganrif ymlaen, pan daeth y Ffonisiaid i orllewin Môr y canoldir. Ar y pryd,Ossonoba oedd enw’r ardal, y rhan bwysicaf De Bortiwgal, a phorthladd ar gyfer pysgod, nwyddau amaethyddol a mwynau.
Roedd Faro o dan reolaith Rhufain rhwng yr ail ac wythfed ganrifoedd, wedyn yr Ymerodraeth Bysantiwm, wedyn y Fisigothiaid, ac y Mwriaid arbyn 713. Adeiladwyd waliau’r dref yn stod y cyfnod Bysantiaidd.
Ar ôl gwrthryfel gan Yahia Ben Bakr, daeth Ossonoba'n brifddinas tywysogaeth, ac adeiladwyd waliau amddiffynnol. Erbyn y degfed ganrif, ‘Santa Maria’oedd enw’r dref, ac erbyn yr unfed ar ddeg, ‘Santa Maria Ibn Harun'’. Yn ystod yr ail grwsâd, ysbeiliwyd y dref gan grwsadwyr anglo-normanaidd ar ei ffordd i’r dwyrain. Digwyddodd yr un peth yn ystod y pumed grwsâd gan filwyr Ffrisiadd.
Enillodd byddin Brenin Alfonso III o Bortugal ym 1249 yn erbyn y Mwriaid ac roedd rhaid iddynt adael. Daeth Faro yn brif ddinas i’r Algarve.
Ar ôl annibyniaeth Portiwgal ym 1143, dechreuodd ehangiad i dir De Iberiaidd, yn disodli’r Mwriaid. Ar ôl 1249, enw y dref oedd Santa Maria de Faaron neu Santa Maria de Faaram. Daeth y dref yn gyfoethog, oherwydd ei phorthladd a diwydiant halen.
Daeth comuned Iddew y dref yn bwysicach yn ystod y 14eg ganrif, yn gyfrannu at ei chyfoeth a datbygiaeth, ond ym mis Rhagfyr 1496 crewyd cyfraith gan Frenin Manuel I o Bortiwgal]], yn diarddel pobl nad oedd yn gristion. Felly yn swyddogol, nid oedd Iddewon ym Mhortiwgal. Disodlwyd Vila Adentro, ardal Iddewig y dref, gan leiandy Nossa Senhora da Assunção
Ym 1499, adeiladwyd ysbyty, Eglwys Espírito Santo, tolltŷ a lladd-dŷ.
Roedd Faro yn ddinas erbyn 1540 ar ôl penderfyniad gan Frenin John III o Bortiwgal, a daeth yn esgobaeth ym 1577.
Anrheithiwyd y ddinas gan Robert Devereux, Iarll Essex ym 1597. Dygwyd llyfrgell yr esgobaeth, a daeth ei llyfrau’n rhon o gasgliad Llyfrgell Bodleian yn Rhydychen.
Estynnwyd y ddinas dros y 17eg a 18fed ganrifoedd, ac ychwanegwyd waliau rhwng 1640 a 1668 o flaen Ria Formosa. Roedd difrod i’r ddinas yn ystod daeargryn Lisbon ym 1755. Difrodwyd lefydd eraill gan tsunami ond gwarchodwyd Faro gan lannau tywodlyd yr afon.
Mae 2 ardal ddaearyddiol i Faro; yr arfordir, rhan o Barc Natural Ria Formosa, a’r barrocal, bryniau a dyffrynnoedd gyda phlanhigion arferol yr Algarve. Crewyd y parc natur ar 8 Rhagfyr 1987; ystyriwyd y parc yn un o 7 rhyfeddod natur Portiwgal, gyda traeth tua 7 cilomedr o’r dref. Mae’r parc yn cynnwys yr afon, morlynnoedd, a twyni tywod yn creu ynysoedd a phenrynion sy’n amddiffyn corsydd a nentydd.. Mae traethau ar benrhyn Ancão, Ilha Deserta ac ynys Culatra.. Mae ynysoedd Barra do Ancão/Barra de São Luís, Barra de Santa Maria/Barra do Farol, a Barra da Culatra/Barra da Armona yn gwarchod y tir tu ôl iddynt.
Mae ambell fath o adar yn treulio’r gaeaf yn yr ardal, megis flamingod, gwenoliaid y môr, cambigau, chiwellau ac esgyll freithion. Mae’r ardal, yn arbennig Ria Formosa, yn denu naturiaethwyr ar wyliau.
Mae llwybr i feicwyr, sef Ecovia do Algarve yn cysylltiad rhwng yr ardal a gweddill y cyfandir.
Mae hafau’n boeth ac yn heulog a’r tymheredd mwyaf tua 27 gradd Celsiws, a gall y gwres barhau i Hydref. Mae’r gaeafau’n gymhedrol, gyda tua 6 awr o heulwen yn ddyddiol. Mae mwyafrif y glaw’n gyrraedd yn y gaeaf. Mae glaw yn brin rhwng Mehefin a Medi; mae’r cyfanswm blynyddol tua 500 milimedr. Mae tymheredd y môr tua 18 gradd Celsiws.yn Ionawr, yn codi at 22-24 yn Awst a Medi.
Mae ffyrdd, rheilffordd a bysiau yn cysylltu’r dref gyda gweddill yr Algarve.
Mae miliynau o ymwelwyr yn cyrraedd ar awyrennau’n flynyddol. Mae 45 o gwmniau awyr yn defnyddio’r maes awyr, gan gynnwyd nifer fawr yn cynnig ticedi rhad i bobl ar wyliau. Mae bysiau yn mynd yn rheolaidd o’r maes awyr i’r dref.
Mae Gorsaf reilffordd Faro ynghanol y dref. Mae Gorsaf reilffordd Bom João yn ardal ddwyreiniol y dref. Mae gwasanaeth Alfa Pendular yn cysylltu Faro a Porto. Mae trenau Intercidades ac InterRegional yn cysylltu Faro a Lisboa. Mae trenau yn cysylltu Faro â Lagos yn y gorllewin a Vila Real de Santo António yn y dwyrain trwy Bom João.
Mae’r orsaf fysiau drws nesaf i orsaf reilfordd y dref. Ac mae bysiau lleol yn ogystal â bysiau dros yr Algarve.
Mae fferiau yn mynd i ynysoedd yr arfordir. ac mae gwasanaethau ar gyfer twristiaid ar Ria Formosa.
Trefnir gŵyl, Semana Académica da Universidade do Algarve, yn flynyddol gan fyfyrwyr Prifysgol yr Algarve. Mae clwb beicwyr modur Faro yn trefnu yn o ddigwyddiadiau mwyaf Ewrop.
Rhennir Estádio Algarve rhwng Faro a Loulé. Mae ganddo 30,000 o seddi. Defnyddiwyd y stadiwm yn ystod Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop yn 2004; defnyddir y stadiwm ar gyfer cyngherddau, gwyliau a digwyddiadau eraill hefyd. Mae clybiau pêl-droed Louletano Desportos Clube a Sporting Clube Farense yn defnyddio stadia llai.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Faro, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.