Un o lwythi'r Slafiaid dwyreiniol oedd y Drevlyane (Rwsieg Древляне / Drevlyane, Wcraineg Деревляни / Derevlyany).
Roedden nhw'n byw mewn ardaloedd sydd heddiw yng ngogledd Wcrain. Eu prifddinas oedd Iskorosten (heddiw Korosten). Fe'u gorfodwyd i dalu teyrneg i Kiev o dan Dywysog Oleg yn 883. Lladdodd y Drevlyane mab Oleg, Igor, mewn gwrthryfel yn 945. Yn sgil y digwyddiad hwn, dialodd gweddw Igor, Olga, ei gŵr drwy oresgyn y Drevlyane, gan ladd eu pendefigion a llosgi Iskorosten i'r llawr. Mae'r Drevlyane yn diflannu o'r cyfnod hanesyddol yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae'r cyfeiriad olaf atynt yn dyddio i 1136. Mae enw'r Drevlyane yn tarddu o'r gair Hen Slafoneg Ddwyreiniol derevo 'coeden', gan i'r Drevlyane fyw mewn ardaloedd coedwig.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Drevlyane, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.