Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar oedd Rws Kyiv (o'r enw Rwseg diweddar Ки́евская Русь; enwau gwreiddiol: Hen Slafoneg y Dwyrain:Роусь (Rusĭ) neu роусьскаѧ землѧ (rusĭskaę zemlę) sef Gwlad y Rws, Hen Norseg: Garðaríki).
Ffurfiodd y wladwriaeth tua diwedd y 9g, gan barhau tan iddi gael ei chwalu gan oresgyniadau'r Mongoliaid-Tatariaid yn ail chwarter y 13g. Dinas Kyiv oedd canol y wladwriaeth. Gwelodd cyfnod Rws Kyiv gyflwyniad Cristnogaeth i'r ardal gan Vladimir I yn 988.
Rws Ciefaidd роусьскаѧ землѧ rusĭskaę zemlę | ||||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Darn arian gyda arfbais Tywysog Yaroslaf y Doeth | ||||||||||||||||||||||||||||
Map yn dangos maintioli Rws Kyiv tua 1000. | ||||||||||||||||||||||||||||
Prifddinas | Kyiv | |||||||||||||||||||||||||||
Ieithoedd | Hen Slafoneg Dwyreiniol | |||||||||||||||||||||||||||
Crefydd | Yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd | |||||||||||||||||||||||||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth absoliwt | |||||||||||||||||||||||||||
Uchel Tywysog | Oleg Y Doeth (cyntaf) | |||||||||||||||||||||||||||
Michael Chernihiv (olaf) | ||||||||||||||||||||||||||||
Hanes | ||||||||||||||||||||||||||||
- | Sefydlwyd | 882 | ||||||||||||||||||||||||||
- | Diddymwyd | 1240 | ||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||
Heddiw'n rhan o |
Mae enw Rws yn tarddu o enw'r llwyth Llychlynnaidd a ddaeth i arglwyddiaethu ar y tiroedd Slafaidd dwyreiniol yn ail hanner y 9g.
Mae hanesyddion yn tueddu heddiw i gyfeirio at Rws yn hytrach na Rwsia yn y cyfnod cynnar er mwyn pwysleisio bod y wladwriaeth ganoloesol gynnar yn rhagflaenu tair cenedl fodern, Rwsia, Wcráin a Belarws, yn hytrach na Rwsia yn unig, ac hefyd am fod craidd y wladwriaeth wedi'i leoli mewn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Wcráin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rws Kyiv, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.