Cylchlythyr o'r wythdegau yw'r Ddraig Binc.
Dyma'r cyntaf i ymddangos gan grŵp hoywon Cymraeg eu hiaith yn Llundain ond ymddangosodd gwrthwynebydd bron yr un amser gan grŵp hoyw yn Aberystwyth o'r enw Cylch. Dewiswyd yr un enw gan y ddau grŵp sef CYLCH. Mae'r Ddraig yn hen symbol ar gyfer y Cymry. I'r Cymry mae'r ddelwedd o'r ddraig goch a'r ddraig wen yn ymaflyd â'i gilydd yn cynrychioli'r frwydr rhwng y Saeson a'r Cymry am oruchafiaeth yn Ynys Brydain. Felly mae fersiwn pinc yn drysu'r syniad yma o ddraig wen a draig goch, gan beri i bobl feddwl.
Mae'r ddau grŵp hoyw wedi dod i ben erbyn hyn. Mae hyn yn enghraifft o zeitgeist lle mae'r un syniad yn ymddangos mewn dau le ar yr un pryd. Ar hyn o bryd mae'r mudiad Cymraeg i Hoywon wedi diflannu i mewn i'r un Saesneg ei iaith. Ysgrifennodd John Sam Jones Welsh Boys Too, casgliad o straeon go iawn am Gymry hoyw. Mae gwaith Mihangel Morgan yn frith o hoywon hefyd ac yn aml heb i'r Cymry heterorywiol eu sylwi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Draig Binc, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.