Mae'r Ddraig Wen yn hen symbol sy'n cynrychioli Lloegr a/neu'r Saeson, neu Wessex (sylfaen Teyrnas Lloegr).
I'r Cymry mae'r delwedd o'r ddraig goch a'r ddraig wen yn ymaflyd a'i gilydd yn cynrychioli'r frwydr rhwng y Saeson a'r Cymry am Ynys Brydain, hanes a geir am y tro cyntaf yn yr Historia Brittonum gan Nennius (tua 800 OC). Lleolir y frwydr fytholegol dan sylfeini Dinas Emrys yn Eryri; mae'r dewin ifanc, Myrddin, yn esbonio i'r brenin Gwrtheyrn arwyddocâd yr ymladd, sy'n dymchwel y castell mae'r brenin yn ceisio adeiladu. Ar ôl blynyddoedd maith o ymladd, y Ddraig Goch fydd yn ennill y dydd.
Mae grwp pagan yng Ngogledd America yn defnyddio'r delwedd hefyd. Mae blog gan Petroc ap Seisyllt wrth yr enw (ac hefyd wrth yr enw Saesneg White Dragon); pwrpas y blog hwn yw ymgyrchu am hawliau ieithyddol i'r Cymry sy'n byw yn Lloegr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Draig Wen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.