Daeth baner Cymru (a elwir hefyd y Ddraig Goch) yn faner swyddogol Cymru yn 1959.
Mae'n dangos draig goch ar faes gwyrdd a gwyn. Am gyfnod, ymddangosodd y ddraig ar fryn gwyrdd, ond mae'r hanneriad llorweddol yn draddodiadol. Hi yw'r unig faner o un o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n ymddangos ar Faner yr Undeb. Y rheswm hanesyddol am hyn oedd statws gwleidyddol Cymru yng nghyfundrefn gyfreithiol a gweinyddol coron Loegr yn dilyn y Deddfau Uno (1536–1543).
Enghraifft o'r canlynol | baner endid gweinyddol o fewn un wlad, baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyn, gwyrdd, coch |
Dechrau/Sefydlu | Tua: 655 OC |
Dechreuwyd | Yn ei ffurf bresennol: 1959 |
Genre | horizontal bicolor flag, charged flag |
Yn cynnwys | y Ddraig Goch |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymru, Bhwtan a Malta yw'r unig wledydd cyfredol sydd â draig ar eu baneri, er y bu ddraig ar faner Tsieina yn ystod Brenhinllin Qing.
Fe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn y gerdd "Gwarchan Maelderw" yn ystod Brwydr Catraeth.Yn ogystal fe sonir am yr haul a'r Duw "Hu". Ysgrifenwyd y gerdd gan Taliesin ond mae'n ymddangos yn y Llyfr Aneirin. Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, arweinydd y lluoedd brodorol er mwyn amddiffyn y Brythoniaid. Mae'r faner hon yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine".
Mae'r cyfeiriad yn darllen mewn Cymraeg Canol "Disgleiryawr ac archawr tal achon//arrud dhreic fud pharaon", sydd yn anodd ei chyfiethu'n gywir, ond mae "rud dhreic" yn gallu cael ei chyfieithu i "draig goch". Mae "pharaon" i'w weld yn Lludd and Llefelys, am y ddwy ddraig dan adeilad Gwrtheyrn, gan awgrymu fod y dyfyniad hwn yn ffynhonnel ar gyfer stori'r Mabinogi, lle mae'r ddraig yn goch unwaith eto. Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru yn y 6g. Y gair "pharaon" yw'r enw hynafol ar Ddinas Emrys, ac mae'r cyfeiriad hon dwy ganrif cyn cofnod Nennius yn Historia Brittonum o stori Lludd a Llefelys; arwydd posib o darddiad hyd yn oed hŷn na hyn.
Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldrw ac ymdrech i'w gyfieithu (o gyfieithiad Saesneg).
“ | Molawt rin rymidhin rymenon. (Moliant yw rhaniad y rhai a ryfeddant.) Dyssyllei trech tra manon. (Syllai'r buddugol tra teg.) Disgleiryawr ac archawr tal achon (Disgleiro ac amlwg tal flaen.) ar rud dhreic fud pharaon. (a'r rhudd-ddraig fydd pharaon.) Kyueillyawr en awel adawaon. (Cyfeilir ar awel ei bobl.) | ” |
Adnabuwyd baner Owain Glyndŵr fel 'Y Ddraig Aur'. Fe'i codwyd yn enwog dros Gaernarfon yn ystod Brwydr Tuthill yn 1401 yn erbyn y Saeson. Dewisodd Glyndŵr i chwifio safon draig aur ar gefndir gwyn, y safon draddodiadol a ddefnyddiodd Uthr Benddraig, fel arewinydd y Brythoniaid Celtaidd cyntaf wrth iddynt frwydro yn erbyn y Sacsoniaid bron i 1,000 o flynyddoedd ynghynt, cyn iddo drosglwyddo'r symbol i’w fab y Brenin Arthur.
Adroddir Adam o Wysg mai draig aur Glyndwr oedd y defnydd cyntaf o safon draig a ddefnyddiwyd mewn rhyfel gan filwyr Cymru ar y 1af o Dachwedd, 1401. Ychwanega'r hanesydd John Davies fod y ddraig a godwyd gan Glyndŵr yn symbol o fuddugoliaeth i'r Brythoniaid Celtaidd.
Ar feddrod Edmwnd Tudur, mae ei ddelw yn gwisgo coron wedi'i gosod gyda "draig Cadwaladr". Yn dilyn buddugoliaeth ei fab ym Mrwydr Maes Bosworth, defnyddiodd Harri VII ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd wrth fynd i mewn i Eglwys Gadeiriol Sant Pawl. Defnyddiodd Harri’r VII fotiff y ddraig fel rhan o herodraeth tŷ Tuduraiddyn hytrach na Chymru. Defnyddiwyd "draig Cadwaladr" fel cefnogwr ar arfbeisiau brenhinol holl sofraniaid Tuduraidd Lloegr ac ymddangosodd hefyd ar safonau Harri VII a Harri VIII.
Yn Eisteddfod Lerpwl yn 1840, defnyddiwyd "safon sidan a osodwyd dros gadair y llywydd, ar yr hon a banetiwyd ddraig goch, ar ddaear werdd, gyda ffîn wen - hon, y dywedodd, oedd wedi'i hanfon ato gan Mr Davies o Cheltenham, a oedd o hyd yn barod i gynnal cofiant a dewrder ei ac ein gwlad." Roedd y safon sidan hefyd yn cynnwys yr arwyddair "y ddraig goch ddyle gychwyn". Yn wreiddol awgrymwyd draig aur ac "urdd marchog i Gymru". Dwy flynydd yn ddiweddarach, defnyddiwyd baneri gyda'r ddraig goch yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni,1842. Yna, yn 1865, hwyliodd long y Mimosa i Batagonia gan hedfan baner y ddraig goch.
Ni ddaeth y ddraig goch yn fathodyn herodrol brenhinol swyddogol tan 1800, pan gyhoeddodd Siôr III warant brenhinol yn cadarnhau'r bathodyn.
Yn 1901, ychwanegwyd y ddraig goch i arfbais Tywysog Cymru Brenhiniaeth Prydain gan y brenin.
Yn y pen draw, cynigiodd y palas Brydeinig gyfaddawd ar ffurf bathodyn brenhinol newydd yn ystod blwyddyn y coroni yn 1953. Ailgynlluniwyd y ddraig draddodiadol ac ychwanegwyd coron gyda'r arwyddair 'Y DDRAIG GOCH DDYRY CYCHWYN'.
Dirmygodd Winston Churchill, y prif weinidog ar y pryd, gynllun y bathodyn, fel y datgelir yng nghofnod canlynol y Cabinet o 1953:
“ | Winston Churchill: "Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity. Gwilym Lloyd George: "Wd. rather be on R[oyal] Arms. This (dating from Henry VII) will be something. | ” |
Ym phasiant cenedlaethol Cymru 1909, mae'r ddraig Gymreig yn ymddangos yn sefyll ar gefndir gwyn. Mae'r ddraig Gymreig sy'n ymddangos ar y faner ar fwrdd Terra Nova Capten Scott hefyd yn ddraig sefyll ar gefndir gwyn a gwyrdd. Hyd at y pwynt hwn, nid oedd fersiwn safonol o'r ddraig Gymreig.
Defnyddiwyd y ddraig ar faneri yn ystod digwyddiadau'r bleidlais i fenywod yng Nghymru yn y 1900au a'r 1910au. Roedd dogfennau derbyn y faner yn sywddogol yn cynnwys un nodyn gan un o gyn-aelodau “Gweithiwyd y faner gan Mrs Henry Lewis… [hi] hefyd oedd Llywydd Ffederasiwn Cymdeithasau Pleidlais Merched De Cymru + bu’n arwain adran De Cymru o’r Bleidlais Fawr Gorymdaith yn Llundain ar 17 Mehefin 1911, yn cerdded o flaen ei baner hardd ei hun… Bu’n achlysur gwych, rhyw 40,000 i 50,000 o ddynion + merched yn cymryd rhan yn y daith gerdded o Whitehall drwy Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly i’r Albert Hall. Denodd y ddraig lawer o sylw – “Dyma’r Diafol” oedd cyfarchiad un grŵp o wylwyr.”
Rhwng 1910 ac 1916 bu sawl apêl gan gyngor trêf Caernarfon i godi baner y ddraig goch ar ben tŵr Eryr castell Caernarfon i gymryd lle baner yr undeb. Dywedodd y maer a dirprwy gwnstabl y castell, Charles A Jones, fod "yr awdurdodau wedi'u cynghori fod dim fath beth â baner Gymreig... dim ond bathodyn".
Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1932, wedi gwisgo mewn dillad beic modur, dringodd John Edward Jones (JE Jones) i ben Tŵr yr Eryr, Castell Caernarfon gyda thri arall, gan gynnwys nai David Lloyd George, William RP George. Yno fe wnaethon nhw ostwng Jac yr Undeb, a chodi’r Ddraig Goch a hoelio'r rhaffau i’r poly gyda styfflau a morthwyl. Arweiniodd hyn at ganu Hen Wlad Fy Nhadau gan dyrfa islaw. Wedi hyn, daeth y gwnstabliaeth leol gan roi baner yr undeb yn ôl i fyny. Yn hwyrach, daeth criw o fyfyrwyr Plaid Cymru o Fangor i’r amlwg ar gefn lori, gan dynnu baner yr undeb i lawr unwaith eto, a'i rwygo i ddarnau ar y maes.
Ar ddydd Gwyl Dewi 1933, codwyd baner y Ddraig Goch yngyd a baner yr undeb a pherfformiwyd y seremoni gan David Lloyd-George. Yn fuan wedyn, chwifiwyd baner Cymru ar holl adeiladau'r llywodraeth ar Fawrth y 1af. Sicrhaodd JE Jones fod canghennau Plaid Cymru ar draws y wlad yn pwyso ar yr awdurdodau lleol i wneud yr un peth. Yna trefnodd gynhyrchu mwy o faneri, a'u gwerthu gan wneud elw.
Ym 1959, gollyngwyd defnydd y Llywodraeth o faner y bathodyn brenhinol o blaid y faner bresennol ar anogaeth Gorsedd y Beirdd.
Fel arwyddlun, mae draig goch Cymru yn bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.
Yn y ffilm Black Panther, ymddengys baner Cymru yn cynrychioli Cymru annibynnol yn y Cenhedloedd Unedig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Baner Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.