Ffenomen a achosir gan y lleuad yn gorwedd rhwng y Ddaear a'r haul gan beri i'r haul gael ei orchuddio dros dro, o safbwynt gwyliwr ar y Ddaear, yw diffyg ar yr haul (hefyd clip ar yr haul, eclips haul weithiau arguddiad).
Gall diffygion ar yr haul fod yn ddiffygion llwyr neu'n rhannol; yr olaf sydd fwyaf cyffredin. Mae diffyg (neu 'eclips') yn digwydd pan fo unrhyw wrthrych seryddol yn symud i gysgod gwrthrych arall, neu pan fo gwrthrych yn pasio rhyngddo a'r gwyliwr. Ar y Ddaear, y ddau ddiffyg a welir ydy diffyg ar yr haul a diffyg ar y lloer.
Mae diffyg llawn yn peri i'r awyr dywyllu'n sylweddol iawn, ffenomen a achosai ofn ym meddwl pobl yn y gorffennol, cyn cael esboniad gwyddonol am y digwyddiad. Credai rhai pobloedd hynafol fod yr haul yn cael ei lyncu gan fod goruwchnaturiol, er enghraifft, a byddai pobl yn gweddio neu'n aberthu i gael yr haul yn ôl. Roedd y gallu i ragweld diffygion ar yr haul, trwy gadw cofnodion seryddol, yn rhoi grym arbennig i offeiriad ac yn eu plith, fe ymddengys, derwyddon y Celtiaid.
Prin iawn y ceir diffyg ar yr haul llawn yng Nghymru ond ceir cofnodion ohonynt yn y gorffennol. Yr olaf oedd ym Mehefin 1927 a chyn hynny ym Mai 1724, Mai 1715, Ebrill 1652, Chwefror 1598, Mawrth 1140, Ionawr 1023 a Hydref 878. Roedd y tywydd ar ddiwrnod y diffyg llawn diwethaf (29 Mehefin 1927) yn wael, gyda chymylau duon a glaw mawr. Nid oedd hi'n bosibl felly ei arsylwi'n llawn, ond ceir disgrifiadau bras mewn papurau o'r cyfnod.
Cafwyd diffyg modrwyol (annular eclipse) yn Hydref 1847, Rhagfyr 1601, Ebrill 1409, Medi 1290, Mehefin 1191, Ionawr 1180, Ebrill 934, Mehefin 764, Awst 733, Rhagfyr 698, Gorffennaf 661 a Medi 536. Ar adegau o ddiffyg modrwyol, mae'r lleuad yn bellach i ffwrdd o'r ddaear ac felly'n bwrw gorchuddio llawer llai o'r haul, sy'n ymddangos fel modrwy o'i gwmpas.
Ceir cofnodion o wahanol ddiffygion yn yr hen lawysgrifau Cymreig.
Ym Mehefin 1836 cafwyd yr adroddiad canlynol yn Seren Ogleddol:
A'r haul yn isel uwch y gorwel, cafwyd y diffyg modrwyol diwethaf yng Nghymru ar fore'r 9fed o Hydref, 1847. Yn Ne Cymru y gellid ei weld a dyma sut yr adroddwyd ei hanes yn Gymraeg eto, yn y Cambrian Natural Observer yn 1900 gan R. Kendrick o Aberystwyth:
Ceir sawl cyfeiriad at ddiffyg ar yr haul yng Nghymru yn yr hen lawysgrifau gan gynnwys pedwar ym Mrut y Tywysogion ac un cofnod o ddiffyg ar y lloer.
A cheir un cofnod yn nhestun Llyfr Coch Hergest o'r Brut, sy'n cyfeirio o bosib at ddiffyg ar y lloer,:
Ceir cofnodion cynhanes o ddiffygion; y cofnod cynharaf y gwyddwn amdano yw tabled glai o Syria sy'n cofnodi diffyg ar yr haul yn 5 Mawrth 1223 C.C., er bod astronomegwyr eraill megis Paul Griffin yn honi mai carreg yn Iwerddon yw'r cofnod cynharaf, sy'n nodi diffyg 30 Tachwedd 3340 C.C.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Diffyg ar yr haul, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.