Daeargryn Nepal 2015

Lladdwyd dros 8,800 o bobl gan Ddaeargryn Nepal 2015 (neu Ddaeargryn Gorkha) ac anafwyd oddeutu 23,000.

Roedd daearegwyr wedi rhagweld y byddai daeargryn angheuol yn taro ryw bryd oherwydd natur y creigiau, pensaernïaeth leol ayb.

Daeargryn Nepal 2015
Daeargryn Nepal 2015
Enghraifft o'r canlynolDaeargryn Edit this on Wikidata
Dyddiad25 Ebrill 2015 Edit this on Wikidata
Lladdwyd8,964 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd25 Ebrill 2015 Edit this on Wikidata
GwladwriaethNepal, India, Bangladesh Edit this on Wikidata
RhanbarthYr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Teimlwyd y cryndodau cyntaf ar 25 Ebrill 2015, a thyfodd i faint 7.8Mw neu 8.1Ms ac uchafbwynt o IX (Treisgar) ar Raddfa Dwysedd Mercalli. Roedd canolbwynt y ddaeargryn wedi'i lleoli i'r dwyrain o ardal Lamjung, oddeutu 15 km (9.3 mi) o dan wyneb y Ddaear. Hwn oedd trychineb gwaethaf Nepal ers 1934 pan drawod Daeargryn Nepal–Bihar.

Creodd y cryndodau dirlithriadau a rhewlithriadau eraill, gan gynnwys sawl eirlithrad (neu avalanches) ar Fynydd Everest, gan ladd 19 o ddringwyr, sef y golled mwyaf mewn un diwrnod ar y mynydd ers cadw cofnodion. Canlyniad arall i gryndodau'r ddaeargryn oedd eirlithrad anferthol yn nyffryn Langtang, ble collwyd 250 o bobl.

Gwnaed cannoedd o filoedd o bobl yn ddigartref o fewn munudau a lloriwyd sawl pentref cyfan mewn sawl rhan o Nepal. Dymchwelwyd llawer o adeiladau hynafol, nifer ohonynt oddi fewn i Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn Nyffryn Kathmandu.

Colledion ac anafiadau yn ôl gwlad
Gwlad Marwolaeth Anafiadau Ffynhonnell
Daeargryn Nepal 2015 Nepal > 8,786 > 22,304
Daeargryn Nepal 2015 India 130 560
Daeargryn Nepal 2015 Gweriniaeth Pobl Tsieina 27 383
Daeargryn Nepal 2015 Bangladesh 4 200
Cyfanswm > 8,947 > 23,447


Ôl-gryniadau

Parhaodd yr ôl-gryniadau drwy Nepal gyfan mewn ysbeidiau o 15-20 munud, gydag un ôl-gryniad o faint 6.7 ar 26 Ebrill (am 12.54 Amser Nepal).

Yr ôl-gryniad mwyaf oedd hwnnw am 12.35 ar y 12fed o Fai 2015 - a oedd o faint (Mw) o 7.3. Roedd canolbwynt y ddaeargryn hon yn nes at y ffin gyda Tsieina, rhwng prifddinas y wlad Kathmandu a Mynydd Everest. Lladdwyd dros 200 o bobl ac anafwyd dros 2,500.

Effaith ar yr economi

Daeargryn Nepal 2015 
Difrod i ffordd yn Nepal

Gyda chynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) o oddeutu USD$19.921 biliwn, Nepal yw un o wledydd tlotaf Asia heb iddi lawer o adnoddau i ailadeiladu ar raddfa mor fawr a hyn. Hyd yn oed cyn y Ddaeargryn roedd yn fwriad ganddi geisio codi pedair gwaith yn fwy o arian ar ei hisadeileddau (infrastructure) angenrheidiol. Amcangyfrifir y bydd y golled i'r economi oddeutu 35% o GDP. Dywedodd llefarydd ar ran yr Asian Development Bank (ADB) ei fod yn fwriad ganddynt gynnig nawdd o USD$3 ar unwaith i Nepal i gychwyn y gwaith o ailadeiladu a hyd at USD$200 miliwn dros y cyfnod cychwynnol.

Yn ôl yr economegydd Rajiv Biswas, bydd angen o leiaf USD$5 biliwn, hy oddeutu 20% o GDP Nepal.

Cyfeiriadau

Tags:

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

R (cyfrifiadureg)MoanaCocatŵ du cynffongochUnicode713Llong awyr1384American WomanBrexitZ (ffilm)MathrafalLuise o Mecklenburg-StrelitzEnterprise, AlabamaNolan GouldWingsSex TapeGoodreadsLlanfair-ym-MualltMathemategRheinallt ap GwyneddPla DuNewcastle upon TyneDant y llewSiarl II, brenin Lloegr a'r AlbanLos AngelesHanesDiwydiant llechi CymruY FfindirCenedlaetholdebSbaen157369 (safle rhyw)CymraegAngkor WatZeusDen StærkestePêl-droed AmericanaiddArwel GruffyddrfeecBuddug (Boudica)Castell TintagelGwlad PwylDinbych-y-PysgodRené DescartesAngharad MairLlumanlongWaltham, MassachusettsGaynor Morgan ReesLlyffant1855OCLCRhannydd cyffredin mwyafGorsaf reilffordd LeucharsWrecsamDylan EbenezerTîm pêl-droed cenedlaethol RwsiaIeithoedd CeltaiddJess DaviesArmeniaBerliner FernsehturmSefydliad WicifryngauMET-ArtOmaha, NebraskaCalsugnoSiôn JobbinsDon't Change Your HusbandAbertawe🡆 More