Dechreuodd dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten yn dilyn cyhoeddiad deuddeg o gartwnau golygyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn portreadu'r proffwyd Islamaidd Muhammad, yn y papur newydd Daneg Jyllands-Posten ar 30 Medi, 2005.
Esboniodd y papur newydd taw cyfraniad i'r ddadl ynglŷn â beirniadaeth o Islam ac hunan-sensoriaeth oedd y cyhoeddiad. Fel ymateb, cynhaliodd mudiadau Mwslimaidd Danaidd protestiadau cyhoeddus a chodont wybodaeth ynglŷn â chyhoeddiad Jyllands-Posten. Wrth i'r ddadl mwyhau, ailargraffwyd enghreifftiau o'r cartwnau mewn papurau newydd mewn dros 50 o wledydd eraill, a arweiniodd at brotestiadau treisgar yn ogystal â phrotestiadau heddychol, yn cynnwys terfysgoedd (yn enwedig ym myd Islam).
Enghraifft o'r canlynol | dadleuon |
---|---|
Dyddiad | 2005 |
Dechreuwyd | 30 Medi 2005 |
Gwefan | https://jp.dk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifiwyd y cartwnau fel Islamoffobig gan rai beirniaid a ddadleuwyd eu bod yn gableddus i Fwslemiaid, yn bwriadu bychanu lleiafrif Danaidd, mewn cyd-destun o gynnydd baetio mewnfudwyr yn Nenmarc, ac yn enghraifft o anwybodaeth am hanes imperialaeth Orllewinol, o wladychiaeth i'r gwrthdaro cyfredol yn y Dwyrain Canol.
Dywedir cefnogwyr y cartwnau taw darlunio pwnc pwysig o fewn cyfnod o derfysgaeth eithafol Islamaidd ydynt ac mae'u cyhoeddiad yn ymarfer deg o ryddid barn. Maent hefyd yn dweud cânt gartwnau tebyg am grefyddau eraill eu hargraffu'n aml, ac felly ni chânt ddilynwyr Islam eu gwahaniaethu yn eu herbyn.
Disgrifiodd Prif Weinidog Denmarc, Anders Fogh Rasmussen, y ddadl fel argyfwng rhyngwladol gwaethaf Denmarc ers yr Ail Ryfel Byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.