Lluniwyd Cytundeb Penmachno (neu Lythyr Penmachno) yng Ngwynedd ar 19 Rhagfyr 1294 gan Fadog ap Llywelyn ac eraill ar anterth ei ymgyrch yn erbyn Edward I a'i oresgynwyr Seisnig.
Pwysigrwydd y ddogfen ydyw'r ffaith fod ei awdur, Madog ap Llywelyn yn defnyddio'r teitl 'Tywysog Cymru, Arglwydd Eryri'; dyma ystîl Tywysogion Gwynedd ers teyrnasiad Llywelyn Fawr.
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Cytundeb i drosglwyddo dau glwt o dir i berson o'r enw Bleddyn Fychan ydy'r ddogfen, a adnabyddir fel Cytundeb Penmachno.
Arwyddwyd y cytundeb gan wŷr mawr y genedl, gan gynnwys Ednyfed Fychan, sef distain (seneschal) llys Teyrnas Gwynedd, a wasanaethai Llywelyn Fawr fel ei ganghellor.
Un arall o awduron y dogfen oedd Tudur ap Goronwy sy'n cael ei ddisgrifio fel "ein swyddog". Mae'n ymddangos drwy'r ddogfen hon fod Madog wedi ail-grynhoi at ei gilydd llywodraeth potensial pe bai ei wrthyryfel wedi bod yn llwyddiannus.
Ond er iddynt gipio nifer o gestyll a llosgi nifer o fwrdeistrefi Seisnig gan gynnwys Caernarfon, Rhuthun a Dinbych, roedd byddin Edward I yn rhy gryf i Fadog ac fe'i garcharwyd yn Nhŵr Llundain, ac ni throsglwyddwyd y tir i Fleddyn Fychan gan i'r goresgynwyr Seisnig gymeryd y tir - a llawer iawn o diroedd eraill drwy Gymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cytundeb Penmachno, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.