Cytundeb a arwyddwyd rhwng Llywelyn Ein Llyw Olaf ac Edward I, Brenin Lloegr yn 1277 oedd Cytundeb Aberconwy.
Rhoddodd Llywelyn ei sêl ar y ddogfen ar 9 Tachwedd, 1277. Trefnwyd y cytundeb yn Abaty Aberconwy gyda Tudur ab Ednyfed a Goronwy ap Heilin yn cynrychioli Tywysog Gwynedd yn y trafodaethau â chynrychiolwyr Edward I.
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb heddwch |
---|---|
Dyddiad | 9 Tachwedd 1277 |
Cadwodd Llywelyn y teitl Tywysog Cymru, a chafodd ganiatâd i briodi Elinor de Montfort. Ond unig etifeddiaeth Llywelyn oedd Gwynedd Uwch Conwy - bu rhaid iddo ildio'r Berfeddwlad "yn dragwyddol" i Goron Lloegr - a doedd dim ond pump o fân-arglwyddi Cymru i dalu gwrogaeth iddo gan fod y gweddill i dalu gwrogaeth i Edward. Roedd Dafydd ei frawd i gael llywodraethu cantrefi Rhufoniog a Dyffryn Clwyd ac roedd Gruffudd ap Gwenwynwyn i gael Powys.
Er bod y cytundeb yn golygu gostyngiad sylweddol yn safle Llywelyn, a hynny ar ôl llawer o frwydro caled, yr oedd ymhell o fod yr hyn a ddymunai Edward, sef gostyngiad llwyr Gwynedd annibynnol a'i throi'n rhan o deyrnas Lloegr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cytundeb Aberconwy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.