Cystadleuaeth bêl-droed wedi ei drefnu gan Fédération Internationale de Football Association (FIFA) ydy Cwpan Clwb y Byd FIFA.
Cafwyd y gystadleuaeth gyntaf yn 2000 ym Mrasil ac er na chafwyd cystadleuaeth rhwng 2001 a 2004, mae'r gystadleuaeth wedi ei chynnal yn flynyddol ers 2005.
Ers 2005, mae'r gystadleuaeth wedi disodli y Cwpan Rhyng-gyfandirol fel prif gystadleuaeth clybiau pêl-droed y byd. Mae saith o glybiau yn cystadlu, sef pencampwyr pob un o gonffederysianau FIFA: Affrica (CAF), Asia (AFC), De America (CONMEBOL), Ewrop (UEFA), Gogledd America, Canolbarth America a'r Caribî (CONCACAF), Oceania (OFC) a phencampwyr y wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth.
Mae'r tlws yn rhoi teitl y byd fel y Cwpan Rhyng-gyfandirol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cwpan Clwb y Byd FIFA, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.