Brîd o gi sy'n tarddu o Loegr yw'r Ci Tarw.
Gafaelgi ydyw a ddatblygwyd yn hanesyddol er mwyn baetio teirw. Fodd bynnag, mae'r brîd hwnnw wedi colli ei ffyrnigrwydd a fe'i ystyrir bellach yn gi cymar yn hytrach na chi ymladd.
Ci Tarw ar ei sefyll. | |
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Màs | 25 cilogram, 23 cilogram |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ganddo ben mawr gyda thrwyn byr a gên isaf sy'n ymwthio allan, clustiau wedi plygu, a chroen llac sy'n crychu dros y pen a'r wyneb. Mae ganddo gôt fer o flew main, o liw melynddu, gwyn, neu frowngoch, weithiau ar batrwm brithlwyd (streipiau tywyll) neu "laeth a chwrw" (gwyn a brown). Saif 13 i 15 modfedd hyd at ei war, ac mae'n pwyso 40 i 50 o bwysau.
Mae'r Ci Tarw yn symbol poblogaidd o Brydeindod. Mae sawl brîd arall yn cynnwys "tarw" yn yr enw, megis y Daeargi Tarw a'r Ci Tarw Ffrengig, felly weithiau cyfeirir at y Ci Tarw Seisnig neu Gi Tarw Prydeinig i wahaniaethu.
Gellir olrhain y Ci Tarw yn ôl i'r 13g. Am chwe chan mlynedd cafodd ei ddefnyddio i ymladd â'r tarw yn y talwrn, pan oedd chwaraeon gwaed yn hynod o boblogaidd. Yn y cyfnod hwn datblygodd dymer dewr a chas, a goddefiad uchel iawn o boen. Bu bron i'r Ci Tarw ddarfod yn sgil Deddf Creulondeb i Anifeiliaid 1835, a waharddodd faetio ac ymladd cŵn.
Yn Oes Fictoria, aeth bridwyr a oedd yn hoff o'r Ci Tarw ati i'w achub, gan fridio'r hen dymer treisgar allan ohono. Cedwid ei ddewrder, ac o ganlyniad un beiddgar ac ystyfnig, er hawddgar, ydy'r Ci Tarw modern.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ci Tarw, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.