Coeden fytholwyrdd yw'r gedrwydden (lluosog: cedrwydd) (Saesneg: Cedar) sy'n aelod o deulu'r Pinaceae ac yn perthyn yn agos iawn i'r pinwydd.
Mynyddoedd Himalaia oedd eu tiriogaeth frodorol ac ardal y Môr Canoldir a gallant dyfu ar uchder o 1,500–3200 metr o lefel y môr. Tarddiad y gair yw'r Roeg: kedros.
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | genws |
Rhiant dacson | Abietoideae, Pinaceae |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall coed cedrwydd dyfu i uchder o 30–40 metr a cheir arogl sbeis ar y pren. Yn aml, mae'r canghennau'n llydan a'r rhisgl wedi cracio. Mae'r dail ar ffurf nodwyddau 6–60 mm o ran hyd. Mae eu hadau o fewn cônau sydd ('moch coed' fel y'u gelwir yng ngogledd Cymru), a rhwng 6–12 cm o ran hyd a 3–8 cm o led.
Defnyddir rhannau o'r gedrwydden yn gymorth i leddfu symptomau annwyd, dolur gwddw a phlorod.
Y gedrwydden yw symbol genedlaethol Libanus gan i'r wlad fod yn enwog ers canrifoedd am ei thyfu. Dyma hefyd yw llysenw'r tîm pêl-droed cenedlaethol Libanus.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cedrwydden, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.