Mynydd yn y Glyderau yng ngogledd Eryri yng Ngwynedd yw Carnedd y Filiast.
Ef yw copa mwyaf gogleddol y Glyderau.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 821 metr |
Cyfesurynnau | 53.14387°N 4.06414°W |
Cod OS | SH6204162739 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 76 metr |
Rhiant gopa | Elidir Fawr |
Cadwyn fynydd | Glyderau |
Saif Carnedd y Filiast ar ben gogleddol y grib sy'n arwain o'r Garn tua'r gogledd dros Foel Goch a Mynydd Perfedd. I'r de-orllewin o'r copa mae cronfa ddŵr Marchlyn Mawr, ac i'r dwyrain mae Cwm Graianog yn arwain i lawr i Nant Ffrancon. Ar lechweddau ei gopa gogleddol, Y Fronllwyd, mae Chwarel y Penrhyn.
Mae'r enw yn tarddu o lên gwerin. Mae enwau henebion cynhanesyddol sy'n cynnwys yr elfennau miliast neu ast yn cynnwys Llety'r Filiast (Y Gogarth, Llandudno), Llety'r Filiast (ger Rowen), Llech y Filiast (Morgannwg), Carnedd y Filiast (ger Ysbyty Ifan) a Llech yr Ast (Llangoedmor, Ceredigion). Yn chwedl Culhwch ac Olwen mae Gast Rhymni, sef merch yn rhith bleiddast, yn cael ei hela gan y Brenin Arthur. Mae'r filiast yn un o ymrithiadau Ceridwen yn y chwedl Hanes Taliesin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Carnedd y Filiast (Glyderau), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.