Mae'r Garn yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy.
Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 947 metr |
Cyfesurynnau | 53.115°N 4.048°W |
Cod OS | SH6309259572 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 236 metr |
Rhiant gopa | Glyder Fawr |
Cadwyn fynydd | Glyderau |
Y ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r dde yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Garn. Gellir dringo'r mynydd o Ben-y-pass hefyd.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”. Uchder y copa o lefel y môr ydy 947 metr (3107 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw: Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Garn (Glyderau), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.