Pen Y Gogarth: Bryn (207.1m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Penrhyn calchfaen i'r gorllewin o dref Llandudno, Sir Conwy, gogledd Cymru, a'i gopa'n 207 m (679 tr) uwchben lefel y môr yw Pen y Gogarth (neu'r Gogarth) cyfeiriad grid SH767833.

Rhed y lôn doll a elwir Marine Drive oddi amgylch y Gogarth. Mae'r Gogarth yn ardal sy'n gyfoethog iawn ei holion cynhanesyddol, o Oes Newydd y Cerrig i Oes y Seintiau. Mae tramffordd Fictorianaidd yn dringo bron iawn i'r copa a cheir nifer o lwybrau cerdded ar hyd ei llethrau glaswelltog. Mae'r golygfeydd o'r copa yn wych ac yn ymestyn o fynyddoedd y Carneddau ac Eryri yn y de-orllewin i Fôn, Ynys Seiriol ac ar ddiwrnod braf Ynys Manaw yn y gogledd ac arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yn y dwyrain.

Pen y Gogarth
Pen Y Gogarth: Cyngreawdr Fynydd, Olion Cyn-hanesyddol, Olion Hanesyddol
Mathcopa, bryn, pentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr207 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3333°N 3.8556°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7675483337 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd201 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMwdwl-eithin Edit this on Wikidata
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Pen Y Gogarth: Cyngreawdr Fynydd, Olion Cyn-hanesyddol, Olion Hanesyddol
Yr olygfa o gopa'r Gogarth
Pen Y Gogarth: Cyngreawdr Fynydd, Olion Cyn-hanesyddol, Olion Hanesyddol
Print o ysgythriad gan J. Newman & Co; 1855

Cyngreawdr Fynydd

Ei hen enw Cymraeg oedd Cyngreadr neu Cyngreawdr Fynydd. Mae'r bardd canoloesol Gwalchmai ap Meilyr yn cyfeirio ato yn y gerdd Gorhoffedd Gwalchmai:

    Dyogladd gwenyg gwyn Gyngreawdr fynydd,
    Morfa Rhianedd Maelgwn rebydd.
    (Mae tonnau gwyn yn taro mynydd Cyngreawdr,
    Morfa Rhianedd [y] brenin Maelgwn.)

Olion Cyn-hanesyddol

Mwyngloddio Copr

Ceir safle cloddio 'Mwynfeydd Copr y Gogarth' sy'n dyddio'n ôl i'r Oes yr Efydd (tua 4000 o flynyddoedd yn ôl) ar Ben y Gogarth; yr adeg yma, roedd y diwydiant copr o bwysigrwydd arbennig gan mai copr yw'r prif fetel mewn efydd. Er fod tystiolaeth fod cloddio wedi para hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae yna dystiolaeth, bellach, y bu pobl yn mwyngloddio yma hefyd rhwng 1692 O.C. ac 1881 O.C. Gorchuddiwyd y siafftiau gyda phren a cherrig yn y 19g, ond ailagowrwyd y safle i'r cyhoedd yn 1987 ar ôl archwiliad archaeolegol o'r safle.

Ceir pedair milltir o dwneli ac ogofâu wedi'u cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.

Pen Y Gogarth: Cyngreawdr Fynydd, Olion Cyn-hanesyddol, Olion Hanesyddol 
Mwynglawdd y Gogarth

Olion Cyn-hanesyddol Eraill

Ceir cytiau cynhanesyddol ym mhen gorllewinol y Gogarth. Yn y pen arall mae cromlech a elwir, fel nifer o rai eraill, yn 'Llety'r Filiast' yn sefyll. Mae Pen y Dinas yn fryn-gaer o Oes yr Haearn uwchben 'Nant Dedwydd' ("Happy Valley" y twristiaid). Ar ei gopa mae carreg hynafol 'Crud Tudno', neu 'Y Maen Sigl', sy'n fod i siglo pan bwysir arno ac a gysylltwyd â'r derwyddon gan rhai o hynafiaethwyr rhamantaidd y 19g.

Olion Hanesyddol

Pen Y Gogarth: Cyngreawdr Fynydd, Olion Cyn-hanesyddol, Olion Hanesyddol 
Chwarel gopr y Gogarth

I'r dwyrain o'r copa mewn cwm bach cysgodlyd saif Eglwys Tudno, eglwys wreiddiol y plwyf, a sefydlwyd yn y 6g, efallai, gan Sant Tudno. Is-law'r goleudy (gweler isod) mae'r ogof 'Parlwr Llech' ("The Hiding Cave") ac ynddi mae bwrdd a mainc carreg naturiol; fe'i gelwir hefyd 'Ogof y Mynaich' ac fe'i cysylltir â Maenordy'r Gogarth ('Abaty'r Gogarth'), Pen y Morfa, neu â'r Mostyniaid. Mae llwybr bytholwyrdd 'Llwybr y Mynachod' yn rhedeg o'r hen faenordy i'r copa.

Y Gogarth fel "mynydd"

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 6 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”. Uchder y copa o lefel y môr ydy 207 metr (679 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Bywyd Gwyllt a Natur

Mae praidd o eifr Cashmiraidd ar y Gogarth ers y 19g. Ceir nifer o blanhigion prin sy'n tyfu ar bridd galchfaen ac mae 'na nifer o adar y môr yn nythu ar y clogwyni, yn cynnwys y bilidowcar.

Ceir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Maes-y-Facrell ger copa'r Gogarth, safle 5 hectar sy'n cynnwys sawl planhigyn prin,

Pen Y Gogarth: Cyngreawdr Fynydd, Olion Cyn-hanesyddol, Olion Hanesyddol 
Y Gogarth o Benmaen-bach

Enwau lleoedd

Fe welwch rhyw 13eg o enwau yn gysylltiedig ag anifeiliaid:- Llety'r Filiast, Llwyn yr Ychen, Hwylfa'r Ceirw, Ffridd y Wigod, Cilfin Ceirw, Bwlch Llwynog, Lloches yr Afr, Braich y March, Llwybr Mulod, Ogof Arth, Ogof yr Eliffant, Ogof Pryf Llwyd, Ffynnon Gaseg, Pen Llyffant, Ogof Colomennod a Maes y Facrell.

Mae sawl esboniad am darddiad Maes y Facrell, y mwyaf tebygol yw 'Maes y Fagwyr Allt' (bryn caerog). Esboniad arall a roddir yw bod 'macrell' wedi ei newid o 'Marcellus'- enw cadfridog Rhufeinig.. Go annhebyg yw'r ystyr 'macrell' yn golygu'r pysgodyn, gan y buasai wedi golygu cario'r pysgod i ben y 'mynydd i'w sychu! Yr atystiad cynharaf o'r enw yw Kaye Mays y Vackell yn 1614-15 [1] sydd yn agor y posibilrwydd llawer symlach mai Maes y Fachell (maes cilfachog) ydi'r tarddiad.

Mae nifer o ogofâu yn y clogwyni môr yn cynnwys 'Parlwr Llech', 'Ogof "Hornby"', 'Ogof Hafnant', 'Ogof Colomennod' ac 'Ogof Dutchman'.

Mae 13 o ffynhonnau wedi eu henwi a'u disgrifio yn Ffynhonnau'r Gogarth [2]

Atyniadau eraill

Mae'r Gogarth yn boblogaidd iawn gan dwristiaid yn yr haf ac mae car cêbl Tramffordd y Gogarth yn dringo o'r dref i'r copa. Ar ben clogwyn 300 troedfedd uwch y môr mae hen oleudy, hanner ffordd rownd y "Marine Drive", oedd gynt yn perthyn i Fwrdd Harbwr a Dociau Lerpwl ond sydd bellach yn westy.

Tramffordd

Cyfeiriadau

Darllen pellach

  • Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, 1984)
  • Ivor Wyn Jones: Llandudno, Queen of Welsh Resorts (Ashbourne, 2002)
  • E.D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Tags:

Pen Y Gogarth Cyngreawdr FynyddPen Y Gogarth Olion Cyn-hanesyddolPen Y Gogarth Olion HanesyddolPen Y Gogarth Y Gogarth fel mynyddPen Y Gogarth Bywyd Gwyllt a NaturPen Y Gogarth Enwau lleoeddPen Y Gogarth Atyniadau eraillPen Y Gogarth TramfforddPen Y Gogarth CyfeiriadauPen Y Gogarth Darllen pellachPen Y Gogarth Gweler hefydPen Y Gogarth Dolenni allanolPen Y GogarthCalchfaenCarneddauConwy (sir)CymruEryriLlandudnoMapiau Arolwg OrdnansMetrMônOes Newydd y CerrigOes y SeintiauPenrhynTramfforddTroedfeddYnys ManawYnys Seiriol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

IsotopEagle EyeFamily GuyIn The Nick of TimeAffrica6 MawrthRiley ReidCodiadBondio cemegolDiwrnod Rhyngwladol y GweithwyrSiot dwad wynebBataliwn Amddiffynwyr yr IaithStreet FighterAwstSweetness in The BellyVin DieselLlyfrgell Genedlaethol IsraelThomas Edwards (Yr Hwntw Mawr)Gweddi'r ArglwyddTrawsryweddQueen Anne's County, MarylandGroeg (iaith)Gogledd IwerddonPennsylvania640Welsh WhispererHawlfraintRoadside RomeoLleuwen SteffanChris Williams (academydd)Berkshire County, MassachusettsIncwm sylfaenol cyffredinolL'auto Di RobinetTaoiseachDysgwr y FlwyddynCirgistanHet AchterhuisThe Disappointments Room1890au1937PrifddinasSeidrOlwyn ddŵrGregor MendelCynhadledd YaltaHwferNwy naturiolAlain DelonWyn LodwickCelyn JonesCalsugno69 (safle rhyw)Rhyfel Yom Kippur1920Steve PrefontaineErthygl 15YmlusgiadAngharad MairCastell BiwmaresXboxAmlwythiantOne Hundred and One DalmatiansMons venerisCala goegSusan B. AnthonyMenter DinefwrRhestr dyddiau'r flwyddynCarolyn HittAngela 2Paramount Pictures🡆 More