Dosbarth neu genre o gerddi a geir yng ngwaith Beirdd y Tywysogion yn yr Oesoedd Canol yw Gorhoffedd.
Prif ystyr y gair gorhoffedd yw 'ymffrost' ond fe'i diffinnir hefyd fel 'edmygedd, canmoliaeth fawr, balchder, bost; hyfrydwch, gormod hoffter, pleser'.
Cerdd o natur ymffrostgar sy'n mynegi llawenydd y bardd yn ei orchest ryfelgar, ei gariad at ferch, ei hoffedd o natur, neu'r elfennau hyn i gyd, yw'r Gorhoffedd. Fe'i nodweddir gan elfen gref o gellwair hefyd. Mae'r Gorhoffedd yn sefyll allan yng ngwaith y Gogynfeirdd am ei fod yn ganu o natur bersonol yn hytrach an chanu mawl.
Yr enghreifftiau o ganu Gorhoffedd sydd ar gael heddiw yw'r cerddi gan Hywel ab Owain Gwynedd ('Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd'), Gwalchmai ap Meilyr ('Gorhoffedd Gwalchmai') ac Owain Cyfeiliog ('Gorhoffedd Owain Cyfeiliog'). Diau bod sawl enghraifft arall o'r genre heb oroesi. Ceir cerddi ymffrost cyffelyb yng ngwaith rhai o'r Cywyddwyr hefyd, ond ni ddefnyddir y gair gorhoffedd i'w disgrifio.
Dyma enghraifft allan o gerdd enwog Hywel ab Owain Gwynedd sy'n moli Gwynedd (a'i merched!):
Gellid cyferbynnu'r Gorhoffedd â'r genre 'Casbethau' a geir yn yr Areithiau Pros, e.e. 'Casbethau Owain Cyfeiliog'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gorhoffedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.