Susan B. Anthony

Ffeminist, swffragét a diwygiwr cymdeithasol Americanaidd oedd Susan B.

Anthony (15 Chwefror 1820 - 13 Mawrth 1906) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymgyrchu dros bleidlais i ferched. Chwaraeodd ran ganolog a blaenllaw yn yr ymgyrch i gael pleidlais i fenywod, sef yr hyn a elwir heddiw yn 'etholfraint'.

Susan B. Anthony
Susan B. Anthony
GanwydSusan Anthony Edit this on Wikidata
15 Chwefror 1820 Edit this on Wikidata
Adams, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1906 Edit this on Wikidata
o methiant y galon, niwmonia Edit this on Wikidata
Rochester, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethymgyrchydd dros hawliau merched, amddiffynnwr hawliau dynol, diddymwr caethwasiaeth, ysgrifennwr, ymgyrchydd hawliau sifil, ffeminist, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadDaniel Anthony Edit this on Wikidata
MamLucy Read Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod Edit this on Wikidata
llofnod
Susan B. Anthony

Magwraeth

Yn enedigol o deulu o Grynwyr, crefydd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb cymdeithasol, casglodd ddeisebau gwrth-gaethwasiaeth pan oedd yn 17 oed. Yn 1856, daeth yn asiant gwladwriaeth Efrog Newydd ar gyfer Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth America (yr American Anti-Slavery Society).

Fe'i ganed yn Adams ar 15 Chwefror 1820 a bu farw yn Rochester, Efrog Newydd o niwmonia ac fe'i claddwyd yno, ym Mynwent Mount Hope.

Ymgyrchu

Yn 1851, cyfarfu ag Elizabeth Cady Stanton, a ddaeth yn gyfaill a chydweithiwr gydol oes iddi mewn gweithgareddau diwygio cymdeithasol, yn bennaf ym maes hawliau menywod. Yn 1852, sefydlodd Gymdeithas Ddirwestol Menywod Efrog Newydd (New York Women's State Temperance Society) ar ôl i Anthony gael ei hatal rhag siarad mewn cynhadledd dirwestol oherwydd ei bod yn fenyw. Yn 1863, fe wnaethant sefydlu Cynghrair Cenedlaethol y Merched Teyrngar (the Women's Loyal National League), a gynhaliodd yr ymgyrch ddeiseb fwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau hyd at hynny, gan gasglu bron i 400,000 o lofnodion i gefnogi diddymu caethwasiaeth.

Rhai cerrig milltir yn ei bywyd:

  • 1866, sefydlodd Cymdeithas Hawliau Cyfartal America (American Equal Rights Association), a fu'n ymgyrchu dros hawliau cyfartal i fenywod ac Americanwyr Affricanaidd.
  • 1868, cyhoeddodd bapur newydd ar hawliau merched o'r enw The Revolution.
  • 1869, sefydlodd Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Merched (National Woman Suffrage Association) pan holltwyd am gyfnod byr mudiad y merched.
  • 1890, unwyd y mudiad yn ffurfiol; cyfunwyd eu sefydliad â'r Gymdeithas dros Etholfraint y Merched American Woman Suffrage Association, gydag Anthony yn arwain y gymdeithas newydd.
  • 1876, dechreuodd Anthony a Stanton gyd-ysgrifennu, gyda Matilda Joslyn Gage, ar yr hyn a dyfodd yn y pen draw i fod yn lyfryn chwe cyfrol: History of Woman Suffrage.

Ennill yr hawl i bleidleisio

Yn 1872, cafodd Anthony ei harestio am bleidleisio yn ei thref enedigol, Rochester, Efrog Newydd, ac fe'i dyfarnwyd yn euog mewn achos llys a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd. Er iddi wrthod talu'r ddirwy, gwrthododd yr awdurdodau gymryd camau pellach. Yn 1878, trefnodd Anthony a Stanton i Gyngres yr Unol Daleithiau dderbyn gwelliant ar gynnig, a roddodd, ar ddiwedd y dydd, yr hawl i ferched i bleidleisio.

Aelodaeth

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Weriniaethol. Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1973) .


Cyfeiriadau

Tags:

Susan B. Anthony MagwraethSusan B. Anthony YmgyrchuSusan B. Anthony Ennill yr hawl i bleidleisioSusan B. Anthony AelodaethSusan B. Anthony AnrhydeddauSusan B. Anthony CyfeiriadauSusan B. Anthony13 Mawrth15 Chwefror18201906EtholfraintFfeministiaethSwffragétUnol Daleithiau AmericaYmgyrchydd dros bleidlais i ferched

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Hong CongTeganau rhywIncwm sylfaenol cyffredinolCochCaeredinWcráinKahlotus, WashingtonCaergaintNepalFfisegHenry LloydCalsugnoCyfalafiaethAmerican Dad XxxGeiriadur Prifysgol CymruElin M. JonesAfon YstwythWikipediaSiôr III, brenin y Deyrnas UnedigCefn gwladRhyfel y CrimeaCaethwasiaethCaerCynaeafuBaionaMao ZedongAngel HeartThe End Is NearClewerRecordiau CambrianMalavita – The FamilyDrwmY DdaearCymdeithas Ddysgedig CymruWaxhaw, Gogledd CarolinaMacOSMapArwisgiad Tywysog CymruCyfathrach Rywiol FronnolSefydliad ConfuciusModelWho's The BossJohn Churchill, Dug 1af Marlborough22 Mehefin1977The Cheyenne Social ClubMynyddoedd AltaiBlaenafonPysgota yng NghymruHalogenLlywelyn ap GruffuddPwyll ap SiônGwibdaith Hen FrânLlanfaglanMeilir GwyneddSeiri RhyddionOcsitania2018Siri🡆 More