Caniadau Solomon (Hebraeg: שיר השירים) yw 22ain llyfr yr Hen Destament.
Ei dalfyriad arferol yw 'Can.'. Mae'n cynnwys cyfres o gerddi serch o naws erotig. Fe'i priodolir i'r brenin Solomon, fab Dafydd a Bathseba, ond cafodd ei chyfansoddi yn yr 2ail ganrif CC, yn ôl pob tebyg, gan awdur neu awduron anhysbys. Mae esboniadwyr Cristnogol ac Iddewig yn gweld y gerdd fel alegori ysbrydol am y berthynas rhwng Duw ac Israel (yn achos yr Iddewon) neu rhwng Crist a'r Eglwys (yn achos y Cristnogion).
Mae'n enghraifft gynnar o draddodiad hirhoedlog yn y Dwyrain o gerddi serch alegorïaidd yn nhraddodiadau cyfrinol Iddewaeth, Cristnogaeth (i raddau llai) ac Islam. Yn achos yr olaf cyrhaeddodd y traddodiad ei uchafbwynt yn y cerddi serch gan feistri fel Hafiz ac Omar Khayyam ym Mhersia.
Roedd awdl Merch Ein Hamserau yn barodi o Ganiadau Solomon:
Dyfyniad:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Caniad Solomon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.