Resin aromatig sydd yn cael ei ddefnyddio mewn arogldarth a phersawrau yw Thus, sydd hefyd yn cael ei alw yn olibanum.
Mae e'n dod o goed o'r genws Boswellia o fewn y teulu Burseraceae, yn enwedig y Boswellia sacra (cyfystyron: B. bhaw-dajiana), B. carterii33, B. frereana, B. serrata (B. thurifera), a B. papyrifera.
Ceir pedair prif rywogaeth o Boswellia sy'n cynhyrchu thus go iawn. Mae resin o bob un o'r bedair ar gael i raddau amrywiol. Mae'r graddau hyn yn dibynnu ar yr amser mae'r cnwd yn cael ei gynaeafu. Trefnir y resin â llaw yn ôl ansawdd.
Mae thus yn dod o'r coed trwy dorri'r rhisgl a gadael i'r resin ddiferu allan a chaledu.
Masnachwyd thus ar Benrhyn Arabia a gogledd Affrica ers dros 5000 o flynyddoedd.
Mae murlun sydd yn dangos bagiau o thus o wlad Punt ar waliau teml y Frenhines Hatshepsut o'r Aifft a fu farw tua 1458 CC.
Thus oedd un o'r arogldarthau cysegredig (HaKetoret) a ddisgrifwyd yn y Beibl Hebraeg a Talmud a ddefnyddiwyd mewn seremoniau Ketoret.
Mae thus yr Iddewon, y Grogwyr, a'r Rhufeiniaid, hefyd yn dwyn yr enw Olibanum (o'r Hebraeg חלבנה). Ceir cyfeiriadau yn yr Hen Destament hefyd sy'n crybwyll masnachu thus o Sheba (Eseia 60:6 ; Jeremeia 6:20). Mae sôn am thus mewn Caniad Solomon (Caniad Solomon 4:14).
Mae thus yn gysylltiedig â myrrh (Caniad Solomon 3:6, 4:6). 'Aur, thus a myrrh' oedd yr anhregion i'r Iesu wedi'i enedigaeth, yn ôl y Beibl.(Mathew 2:11).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.