Camlas sy'n cysylltu Llundain a Birmingham yw Camlas Grand Union.
Mae’n 137 milltir o hyd ac mae 166 o lociau. Mae canghennau’n mynd i Gaerlŷr, Slough, Aylesbury, Wendover a Northampton. Crewyd y Grand Union gan uno Camlas Grand Junction a Chamlas Regent
Math | camlas |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerlŷr, Swydd Buckingham, Berkshire, Swydd Warwick, Swydd Northampton, Swydd Hertford |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.0508°N 0.734°W |
Hyd | 220 cilometr |
Perchnogaeth | Grand Union Canal Company |
Mae’r gamlas yn cysylltu ag Afon Tafwys yn Brentford, ac mae dros 50 o lociau rhwng Afon Tafwys a chopa Bryniau Chiltern. Mae’r gamlas yn mynd trwy Stoke Bruerne, lle mae Amgueddfa’r Camlesi, a Braunston. Mae twneli ger Braunston a Blisworth. Mae’r gamlas yn mynd trwy Leamington Spa a Warwick ar ei ffordd i Birmingham. Mae 21 o lociau yn Hatton sydd erbyn hyn wedi cael y llysenw ‘Stairway to Heaven’. Ailadeiladwyd y lociau gyda choncrit gan 1,000 o ddynion dros gyfnod o 2 flynedd.
Mae’n mynd heibio Parc Regent Sw Llundain a Camden Town cyn ymuno ag Afon Tafwys ym Masn Limehouse.
Mae’n gadael y brif gamlas wrth Gyffordd Norton, i’r de o Braunston, gan ddringo ac wedyn syrthio cyn ymuno ag Afon Soar yn ymyl Loughborough, ac ar ôl 10 milltir arall mae'n ymuno ag Afon Trent ger Kegworth. Mae dwy dwnel ger Crick a Husband’s Bosworth, cyfres o lociau yn Watford, a Foxton, ac mae man uchaf y gangen rhyngddynt. Disodlwyd 10 o lociau Foxton gyda plân ar oleddf, yn codi cychod 75 troedfedd, ym 1900, ond wedi problemau, ail agorwyd y lociau ym 1908.
Mae’n estyn am 5 milltir i’r gorllewin o Cowley Peachey..
Yn cael ei adnewyddu gan Ymddiriodolaeth Cangen Wendover.
Mae’n disgyn drwy 16 o lociau i Aylesbury.
Mae’n mynd o Gyffordd Gayton ac yn cysylltu ag Afon Nene.
Wedi'i hadnewyddu gan Ymddiriodolaeth Camlas Saltisford, mae’n gangen fer yn mynd i ganol Warwick.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Camlas Grand Union, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.