Ysgolheigion, ieithwyr ac ymchwilwyr diwylliannol Almaenig a gasglai hen chwedlau ac a gyhoeddodd sawl cyfrol o chwedlau a llên-gwerin oedd y Brodyr Grimm.
Cyhoeddasant y gyfrol Grimm's Fairy Tales, a ddaeth yn hynod boblogaidd. Gwnaeth Jakob waith academaidd hefyd ar ieitheg, a oedd yn ymwneud â sut y mae seiniau mewn geiriau'n newid dros amser, (Grimm's law). Roedd hefyd yn gyfreithiwr ac roedd ei waith cyfreithiol "German Legal Antiquities" (Almaeneg: Deutsche Rechtsaltertümer) ym 1828, wedi ei wneud yn flaenllaw ym maes tarddiad ac ystyr nifer o idiomau a symbolau cyfreithiol hanesyddol. Ynghyd â Karl Lachmann a Georg Friedrich Benecke gellir eu hystyried fel sylfaenwyr ieitheg Almaeneg ac Astudiaethau Almaeneg. Dechreuodd y ddau frawd grynhoi'r sef y geiriadaur Almaeneg cyntaf. Bu fawr Jacob a lwyddodd i gwblhau'r llythrennau A, B, C ac E, ar 20 Medi, 1863.
Brodyr Grimm | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Blodeuodd | 19 g |
Adnabyddus am | Grimms' fairy tales |
Cyhoeddwyd y casgliad cyntaf o straeon tylwyth teg "Children's and Household Tales" (Almaeneg: Kinder-und Hausmärchen) ym 1812 ac roedd yn cynnwys dros 200 o straeon tylwyth teg. Yn eu ffurfiau gwreiddiol, roedd chwedlau Grimm yn dreisgar a thywyll, mewn gwrthgyferbyniad chwyrn i'r "fersiynnau Disney" o'r un chwedlau a ryddhawyd yn ddiweddarach.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brodyr Grimm, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.