Ysbrydolwyd baner Panama gan yr faner Unol Daleithiau America.
Mae'r faner yn cynnwys pedwar chwarter gyda seren goch a seren las mewn dau chwarter a'r ddau chwarter arall yn las a'r llall yn goch. Mae'r coch (Rhyddfrydol) a glas (ceidwadol) yn cynrychioli'r ddau blaid wleidyddol sy'n bresennol ar adeg y sylfaeni'r wladwriaeth yma yng Nghanolbarth America. Mae'r gwyn yn cynrychioli'r heddwch y mae'r sefydliadau'n gweithredu ynddi.
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyn, glas, coch |
Dechrau/Sefydlu | 25 Mawrth 1925 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tachwedd y 4ydd yw Diwrnod y Faner - sef diwrnod Annibyniaeth Panama oddi ar Colombia.
Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar 4 Tachwedd 1925 ac mae'n seiliedig ar y faner a fabwysiadwyd ym 1903 a addasu yn ddiweddarach. Roedd y faner wreiddiol wedi ei ddylunio gan y diplomydd Panamanaidd, Manuel Amador Terreros, ar noson 1 Tachwedd 1903. Ei fwriad oedd creu baner yn cynrychioli byd gwleidyddol y Panama ar yr adeg honno. Mae'r glas hefyd yn cynrychioli'r Môr Tawel a'r Môr y Caribî; coch y gwaed a gollwyd dros y wlad a gwyn am heddwch.
Mae'r faner gyfredol yn union yr un peth â'r faner wreiddiol ond bod y sêr wedi ffeirio lle gyda'r chwarter lliw llawn gan roi'r seren las uchaf yn y canton sydd yn fwy arferol i'r lygad ac yn dilyn confensiwn Banereg.
Cynigwyd cynllun arall gan Philippe Bunau-Varilla yn 1903 oedd wedi ei seilio ar faner yr Unol Daleithiau a chwaraeodd ran yn mrwydr Panama dros annibyniaeth oddi ar Colombia gan gyfuno'r lliwiau melyn a choch - lliwiau sydd ym maneri Colombia a Sbaen er mwyn cydnabod perthynas Panama gyda'r ddwy wlad honno. Yn y canton dyluniwyd ddau haul yn symbol o ogledd a de America gyda dolen rhyngddynt yn symbol o Gamlas Panama ac uno dwy gefnfor. Gwrthowyd y cynllun yma gan ei fod yn rhy debyg i faner yr UDA.
Mae baner Panama yn adnabyddus ar draws y byd fel baner cyfleustra. Caiff ei chwifio gan longau masnach er mwyn hwylstod masnachu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Baner Panama, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.