Astudiaeth hanes, symbolaeth, defodau, dylunio, a gwneuthuro baneri yw banereg.
Ceir cymdeithas Banereg Cymru fel cymuned anffurfiol ar Facebook.
Mae'r iaith Saesneg a sawl iaith arall yn defnyddio'r gair 'vexillology' o'r Lladin, vexillum, fel gwraidd eu gair am faneriaeth neu banereg. Mae'r gair yn dod o'r gair Lladin am fath o faner sgwâr a gariwyd gan y marchoglu Rufeinig.;
Mae nifer o'r rheolau neu confensiynau ar gyfer llunio baner yn seiliedig ar reolau herodraeth. Ymysg y rhain, mae Rheol Tintur ar gyfer y defnydd i liwiau a luniwyd gan y Cymro, Humphrey Lhuyd yn 1568. Rheol syml Lhuyd oedd "dim metal ar fetal, na lliw ar liw". Hynny yw, er enghraifft, dim delwedd lliw melyn ar gefndir gwyn, neu lliw gloch ar gefndir las. Yn hyn o beth, mae baner Cyprus yn torri'r rheol "metal ar fetal" (aur ar arian, hynny yw, melyn ar wyn) a baner Albania yn torri'r rheol "dim lliw ar liw" (du ar lain goch).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Banereg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.