Term amrywiol a ddefnyddir i ddisgrifio rhanbarth yn Oceania yw Awstralasia – mae fel arfer yn cyfeirio at Awstralia, Seland Newydd, ac ynysoedd cyfagos yn y Cefnfor Tawel.
Enghraifft o'r canlynol | rhanbarth |
---|---|
Rhan o | Oceania |
Yn cynnwys | Awstralia, Seland Newydd, Melanesia |
Enw brodorol | Australasia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bathwyd y term gan Charles de Brosses yn Histoire des navigations aux terres australes (1756). Daw o'r gair Lladin am "i de Asia" a nododd Brosses y gwahaniaeth rhwng y rhanbarth â Pholynesia (i'r dwyrain) a de ddwyrain y Cefnfor Tawel (Magellanica); mae hefyd yn wahanol i Ficronesia (i'r gogledd ddwyrain).
Yn ddaearwleidyddol, defnyddir Awstralasia weithiau fel term am Awstralia a Seland Newydd yn unig. Mae yna nifer o gyfundrefnau gydag enwau sydd wedi'u rhagddodi â "Y Gymdeithas Awstralasiaidd ar gyfer" (Australasian Society for) sydd wedi'u cyfyngu i Awstralia a Seland Newydd.
Yn y gorffennol, mae Awstralasia wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar gyfer timau chwaraeon cyfunol Awstralia/Seland Newydd. Mae enghreiffitau'n cynnwys tennis rhwng 1905 ac 1913, pan cyfunodd Awstralia a Seland Newydd eu goreuon i gystadlu yng Nghwpan Davis (ac ennillon nhw yn 1907, 1908, 1909 ac 1911), ac yng Ngemau Olympaidd 1908 ac 1912.
Yn gyffredinol mae anthroploegwyr, er yn anghytuno ar fanylion, yn cefnogi theorïau sy'n priodoli tarddiad de ddwyreiniol Asiaidd am frodorion ynysoedd Awstralasia ac isranbarthau cyfagos.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Awstralasia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.