Artist o Gymro oedd Aneurin M.
Jones (1930 – 25 Medi 2017) a gafodd ei eni yn ardal Y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn hoff iawn o dynnu lluniau o olygfeydd cefn gwlad, ac yn benodol, mannau lle mae cymeriadau cefn gwlad yn ymgynnull megis arwerthiannau, sioeau a threialon cŵn defaid. Roedd yn arlunio llawer o geffylau hefyd.
Aneurin Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1930 Cymru |
Bu farw | 25 Medi 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
Gwefan | http://www.aneurinjones.co.uk/ |
Ganwyd Aneurin yn fab i ffermwr yng nghymuned wledig Cwm Wysg, ar y ffin rhwng siroedd Brycheiniog a Chaerfyrddin. Parhaodd a'i addysg yng Ngholeg Celf Abertawe lle'r astudiodd Celf Gain rhwng 1950 ac 1955. Ar ôl iddo raddio, treuliodd ddwy flynedd yn gweithio i Celtic Studios, yn gweithio ar wydr lliw. Rhwng 1958 a'i ymddeoliad yn 1986, bu'n Bennaeth yr Adran Gelf yn Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro.
Roedd ei waith wedi'i arddangos yn rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a phan oedd yn fyfyriwr yn 1954, derbyniodd y wobr aur yn rownd derfynol y gystadleuaeth agored. Yn 1974, cafodd ei wahodd i arddangos ei waith yn Arddangosfa Hawkmoor a oedd yn dangos bywyd ac hanesion Twm Sion Cati. Bedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1978, derbyniodd Wobr Cymdeithas y Rotari am ei wasanaethau i fyd Celf. Yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1981 derbyniodd y brif wobr ar gyfer artistiaid a anwyd neu sy'n byw yng Nghymru. Yn 1983, cafodd ei luniau eu cynnwys mewn llyfr yn seiliedig ar waith 15 o artistiaid amlycaf Cymru.
Roedd Aneurin yn briod gyda Julie ac roedd ganddynt ddau o blant, Meinir a Meirion, sydd hefyd yn artist. Roedd yn byw yn ardal Aberteifi, Ceredigion hyd ei farwolaeth yn 2017.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aneurin Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.