Americanwyr o linach ddu Gorllewin Affricanaidd yw Americanwyr Affricanaidd a elwir hefyd yn Americanwyr Duon neu'n Affro-Americanwyr.
Mae eu mwyafrif yn ddisgynyddion i gaethweision o oes caethwasiaeth yr Unol Daleithiau, ond mae eraill yn fewnfudwyr duon o Affrica, y Caribî, Canolbarth America a De America, neu'n ddisgynyddion i fewnfudwyr o'r rhanbarthau hyn. Americanwyr Affricanaidd yw'r categori ethnig mwyaf ond dau yn yr Unol Daleithiau, ar ôl Americanwyr Gwynion ac Americanwyr Latino.
Mae hanes yr Americanwyr Affricanaidd yn agwedd bwysig o hanes yr Unol Daleithiau, sy'n cynnwys y fasnach gaethweision, eu rhyddfreiniad yn ystod Rhyfel Cartref America, arwahanu hiliol drwy ddeddfau Jim Crow, y Mudiad Hawliau Sifil, ac etholiad Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 2008.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Americanwyr Affricanaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.