Biolegydd a naturiaethwr Saesnig oedd Alfred Russel Wallace (8 Ionawr 1823 – 7 Tachwedd 1913).
Cafodd ei eni yn Llanbadog ger Brynbuga, Mynwy, Cymru. Roedd yn naturiaethwr, daearyddwr, anthropolegydd ac yn fiolegydd bydenwog, yn bennaf gan iddo ddatblygu'r cysyniad o esblygiad o flaen, neu ar yr un pryd â Charles Darwin, er mai Darwin a gafodd y clod. Roedd yn Sosialydd ac roedd yn gefnogol i hawliau merched.
Alfred Russel Wallace | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1823 Brynbuga |
Bu farw | 7 Tachwedd 1913 Broadstone |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, biolegydd, fforiwr, anthropolegydd, swolegydd, naturiaethydd, ymgyrchydd yn erbyn pigiadau, adaregydd, pryfetegwr, daearyddwr, gwenynwr, botanegydd, teithiwr byd, ysgrifennwr, casglwr swolegol, casglwr botanegol |
Tad | Thomas Vere Wallace |
Mam | Mary Anne Greenell |
Priod | Annie Mitten |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Urdd Teilyngdod, Medal Copley, Medal Brenhinol, Medal y Sefydlydd, Medal Darwin, Medal Darwin–Wallace, Medal Linnean, Cymrawd y Gymdeithas Sŵolegol, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas y Linnean, Doctor honoris causa of the University of Dublin, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi |
Gwefan | http://wallacefund.info |
llofnod | |
Dechreuodd ei waith ar Afon Amazon gyda'r naturiaethwr Henry Walter Bates ond cafwyd tân ar fwrdd y llong wrth ddychwelyd a chollodd ei samplau, a'r arian o'u gwerthu. Teithiodd yn ddiweddarach i Archipelago Malay - unwaith eto i gasglu samplau o fywyd gwyllt masnachol. Yno y disgrifiodd yr hyn a elwir, bellach, yn Llinell Wallace sef dosraniad pwysig rhwng Indonesia ac Awstralia. Adnabyddir ef hefyd fel "tad bioddaearyddiaeth". Bu farw yn 90 oed.
Cafodd ei eni yn Llanbadog, ger Brynbuga, Sir Fynwy i Thomas Vere Wallace a Mary Anne Greenell - y seithfed o naw plentyn. Hanai ei fam o Hertford yn Lloegr a symudodd y teulu yno pan oedd yn bump oed ac aeth i ysgol Hertford Grammar School hyd at 1836. Honnai ei dad ei fod yn wreiddiol o'r Alban ac yn perthyn i William Wallace. Ar un o'r lluniau a dynnodd, ysgrifennodd yn Gymraeg "Merch Gymraeg yn cario dwfr"; a defnyddiodd ei wybodaeth am y Gymraeg yn rhan o'i gysyniadau blaenllaw ar esblygiad. Symudodd i Lundain i weithio fel prentis efo'i frawd John, a oedd yn adeiladwr 19 oed. Codwyd plac iddo yn 1979, yn 44 Ffordd Sant Pedr, Croydon i gofio hyn. Symudodd eildro i weithio fel prentis i'w frawd hynaf William, fel arolygydd tir yn 1837. Mynychodd ddarlithoedd yn y London Mechanics' Institute, sef Prifysgol Birkbeck erbyn hyn, a daeth yn ddarlithydd yno dan ddylanwad y sosialydd Robert Owen a Thomas Paine.
Yn 1839, symudodd i Kington, Sir Henffordd, gan ymsefydlu yng Nghastell Nedd ym Morgannwg a gweithio (hyd at 1843) fel syrfëwr yng Nghymru gan amlaf. Dywed rhai haneswyr fod Wallace yn nodi ei genedligrwydd fel Sais yn hytrach na Chymro, ac mae sylwadau helaeth ganddo fe am y Cymry Cymraeg yn ei hunangofiant "My Life" (Cymry Cymraeg, iddo ef, oedd y werin o gwmpas Castell Nedd cofier). Daeth yn athro yng Nghastell Nedd ac wedyn yng Nghaerlŷr lle treuliodd gryn amser yn llyfrgell y dref; yno hefyd y cyfarfu Henry Walter Bates. Bu farw ei frawd yn 1845, a chymerodd Wallace ofal o fusnes ei frawd, John, ond aeth yr hwch drwy'r siop, a chymerodd swydd fel syrfëwr yn cynllunio rheilffordd drwy Ddyffryn Nedd. Roedd y gwaith hwn yn caniatáu iddo ymwneud â'i brif ddiddordeb, sef casglu pryfed.
Dilynodd yn nhraddodiad Alexander von Humboldt, William Henry Edwards a Charles Darwin ym 1848, pan deithiodd Wallace a Henry Bates i Frasil i hel samplau daearyddol ac i werthu a chasglu tystiolaeth am rywiogaethau'n esblygu. Enwodd oddeutu 200 o rywogaethau newydd ar y daith hon. Ymunodd y botanegydd Richard Spruce, a brawd iau Wallace, Herbert, gyda'r daith ym 1849. Astudiodd afon Rio Negro am bedair blynedd a ffawna, fflora a'r brodorion lleol yn Indonesia am 8 mlynedd gan nodi llawer am eu harferion a'u hieithoedd. Dychwelodd ar gwch o'r enw "Helen" ar 12 Gorffennaf 1852 ond bu tân ar fwrdd y llong a suddodd. Ar yr ymweliad hwn ag Indonesia yr esgorodd ar y syniad fod gan rywogaethau un hynafiad cyffredin, er fod y rhywogaeth honno wedi diflannu. Un enghraifft a nododd oedd y Glöyn aden aderyn. Nododd fod rhywogaethau'n perthyn i'w gilydd yn hytrach nag yn cael eu creu gan Dduw a chyhoeddodd bapur The Decent with Modification. Danfonodd y papur i Lundain yn 1855. Disgrifiad o'r broses esblygol oedd y papur hwn mewn gwirionedd.
Er gwaethaf colli ei holl stoc (ar wahân i'w ddyddiadur), ei bapurau a'i arian ysgrifennodd chwech o bapurau academaidd gan gynnwys: On the Monkeys of the Amazon, Palm Trees of the Amazon and Their Uses a Travels on the Amazon.
Erbyn 1858 roedd ei syniadau'n aeddfed ac roedd ganddo dystiolaeth gadarn i brofi ei ddamcaniaethau, ac felly anfonodd hwy at Darwin. Cyhoeddwyd ei bapur helaeth a nodiadau byr 'ar y gweill' gan Darwin mewn cyfarfod arbennig o'r Linnaean Society of London.
Danfonodd bapur arall lle nododd fod esgyrn traed Cornylfinir a'r Si yn union yr un fath ac felly'n perthyn i'r un teulu. Dechreuodd Wallace lythyru gyda Darwin, gan nodi ei ddarganfyddiadau i'r manylyn eithaf. O hyn ymlaen newidiodd syniadau Darwin, gan adlewyrchu darganfyddiadau Wallace.
Treuliodd ddeunaw mis yn Llundain yn byw ar y taliadau yswiriant a dderbyniodd. O 1854 i 1862 (yn 31 - 39 oed), roedd e yn y Malay Archipelago (a adnabyddwn heddiw fel Singapôr, Malaysia ac Indonesia) lle casglodd dros 125,000 o rywiogaethau (dros 80,000 o chwilod). Enwyd Rhacophorus nigropalmatus, fel "Wallace's flying frog" ar ei ôl.
Dychwelodd i Brydain o Malaysia ym 1862, gan aros gyda'i chwaer Fanny Sims, ac anerchodd nifer o'r cymdeithasau gwyddonol lu yn Llundain fel Cymdeithas Swolegol Llundain, a chymdeithasodd gyda Darwin yn Down House, Charles Lyell a Herbert Spencer.
Ym 1866 priododd Annie Mitten a chawsant dri o blant: Herbert (1867–1874), Violet (1869–1945), a William (1871–1951).
Bu farw ar 7 Tachwedd 1913, yn 90 oed. Dywedodd y New York Times mewn coffâd amdano: "the last of the giants belonging to that wonderful group of intellectuals that included, among others, Darwin, Huxley, Spencer, Lyell and Owen, whose daring investigations revolutionized and evolutionized the thought of the century."
Ar 19 Gorffennaf 2017 bu arwerthiant o 24 o lythyrau olaf Wallace gan yr arwerthwr Dominic Winter a'r wythnos ganlynol, gwerthwyd nodiadau ar gyfer llyfr yr oedd Wallace a'i olygydd, Syr James Marchant, yn bwriadu cyhoeddi o'r enw Darwin a Wallace. Disgrifiwyd y casgliad hwn yn "facinating" gan y Dr George Beccaloni, cyfarwyddwr Prosiect Llythyrau Alfred Russel Wallace.
Galwyd dwy rywogaeth o adar sy'n frodorol o Indonesia ar ei ôl, sef: Rhegen Wallace ac Aderyn paradwys Wallace (Semioptera wallacei), a'r Gwalcheryr Wallace sy'n frodorol o Indonesia, Brwnei, Gwlad Tai, Myanmar a Maleisia.
Cyhoeddodd 22 llyfr llawn, 747 o weithiau llai a 508 o bapurau gwyddonol.
Y papur gwreiddiol yn llawn. Sylwer 1858 nid 1859. Alfred Russel Wallace, "On the Tendency of Varieties to Depart Indefinitely From the Original Type" (1858)
Llyfryddiaeth llawn gan:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alfred Russel Wallace, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.