Gwyddonydd R. Elwyn Hughes: Biocemegydd (1928-2015)

Biocemegydd yn arbenigo mewn fitamin C oedd y Dr R Elwyn Hughes (18 Hydref 1928 – 30 Tachwedd 2015).

Rhoddodd gwasanaeth hir i faterion gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg. Roedd hefyd yn gymwynaswr i'r Gymraeg yn gyffredinol yn ei ardal a thu hwnt.

R. Elwyn Hughes
GanwydHydref 1928 Edit this on Wikidata
RhaeGwy Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 2015 Edit this on Wikidata
Pentyrch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbiocemegydd Edit this on Wikidata
Gwyddonydd R. Elwyn Hughes: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Bywyd personol
Cyfrol (1997) Elwyn Hughes ar gyd-gyflwynydd damcaniaeth Esblygiad, Alfred Russel Wallace, a anwyd ym Mrynbuga yn 1823.

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd Richard Elwyn Hughes ym mhentref RheGwy, Sir Faesyfed. Cafodd fagwraeth hollol Saesneg ar yr aelwyd, ac yn ysgol gynradd y pentref ac uwchradd yn Ysgol Llandrindod, heblaw am wersi yn y Gymraeg yn ystod yr awr ginio.. Aeth i Goleg y Santes Catrin, Caergrawnt, lle bu'n ysgolor yn y Gwyddorau Naturiol. Wedi graddio treuliodd ychydig o amser yn y Llu Awyr Brenhinol (Swyddog Hedfan) yn Sain Tathan, Bro Morgannwg cyn dychwelyd i Gaergrawnt i orffen ei ymchwil ac ennill gradd Ph. D.

Gyrfa

Bu'n ymchwilydd yn Labordy Ymbortheg Dunn, Caergrawnt. Erbyn 1962 roedd yng Ngholeg Technoleg Uwch Cymru (WCAT; a ddaeth, yn 1967 yn rhan o Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIST)), lle bu'n Ddarllenydd mewn Biocemeg Maeth tan ei ymddeoliad yn 1989. Cyhoeddodd yn gyson ym maes fitamin C ac, yn ddiweddarach, ar ffibr mewn bwydydd. Cafodd ei ethol yn FIBiol. Am gyfnod bu Elwyn Hughes yn Gyfarwyddwr y Gymdeithas er Hyrwyddo Addysg am Fwydydd (Llundain) ac yn ymgynghorydd i'r diwydiant bwyd. Fe draddododd Darlith Rhondda-Barnett yng Ngholeg Brenhinol y Ffisegwyr yn 1976.

Cyfraniad hanesyddol oedd iddo gyfarwyddo'r thesis PhD gwyddonol trwy'r Gymraeg gyntaf. Y myfyriwr llwyddiannus oedd Rhiannon Williams, sy'n bellach yn enwog fel gofaint aur.

Gyda rhai megis Glyn O Phillips, Llew Chambers ac Iolo Wyn Williams, bu Elwyn Hughes yn un o brif ddylanwadau'r dadeni'r 1960au mewn Gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg. Cyflwynwyd iddo Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Eryri (2005). Wrth ei gyflwyno ar ran y panel dewis, dywedodd John S Davies mai ar sail "arloesedd mewn llyfryddiaeth ac erthyglau yn ymwneud â Bywydeg a Maetheg yn y Gymraeg" a "cyflwyno'r meysydd hyn yn awdurdodol ar y cyfryngau ac i'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol" yr oedd y gydnabyddiaeth hon. Bu'n is-olygydd a chyfrannwr cyson i'r Gwyddonydd (ymunodd a'i bwrdd golygyddol ar gyfer rhifyn Medi 1965), ac yna i Delta, am ddeng mlynedd ar hugain. A John S Davies ymlaen i bwysleisio mai nad bychan oedd ei gyfraniad, oherwydd yma roedd "meithrinfa geirfa safonol i'r meysydd biolegol". Bu Elwyn Hughes yn Gadeirydd Pwyllgor Termau Technegol Bwrdd y Gwybodau Celtaidd. Erys, hefyd, atgofion ei gyfraniadau pwyllog ar derminoleg i gynadleddau blynyddol y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.

Yr ei erthygl deyrnged i Elwyn Hughes yn Y Gwyddonydd (1989) cyfeiria Iolo Wyn Williams at "ugain a mwy o erthyglau safonol [i'r Gwyddonydd]], dwsinau o adolygiadau a llawer o'r rheiny yn erthyglau ynddynt eu hunain, nodiadau rheolaidd o'r Athrofa [UWIC] a nifer o bos croeseiriau [e.e. y Faner Newydd], heb sôn am waith golygu, addasu, cyfieithu di-ben-draw a dienw. Cyfrannodd yn rheolaidd i gynadleddau'r Gymdeithas Wyddonol gan lunio iddi adroddiad pwysig ar Swyddi Gwyddonol yng Nghymru".

Cyn ymddeol, dechreuodd Elwyn Hughes ymddiddori a chyhoeddi ym maes hanes gwyddoniaeth a hanes gwyddoniaeth cefn gwlad. Ar ôl ymddeol ymroddodd yn llwyr i faterion hyn gan ddarlithio, darlledu ac ysgrifennu'n helaeth arnynt. Wrth baratoi ei gyfrol ar Darwin (1981) yng nghyfres Y Meddwl Modern, daeth ar draws hanes y naturiaethwr Alfred Russel Wallace, a anwyd ym Mrynbuga yn 1823. O'r herwydd, treuliodd amser maith yn ymchwilio i'w fywyd. Ffrwyth hyn oedd cyfrol gynhwysfawr, Alfred Russel Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol, a gyhoeddwyd gŵan Wasg Prifysgol Cymru yn 1997. Mae ymdriniaeth Elwyn Hughes a chysylltiadau Wallace a Chymru yn y gyfrol hon yn arbennig o werthfawr. Fe'i hysgogwyd yn rhannol gan mai yn ardal magwraeth Elwyn Hughes y bu Wallace am gyfnod dylanwadol iawn ar ddechrau ei yrfa. Bu gryn alw ar Elwyn Hughes i son am Wallace ar y cyfryngau dros y blynyddoedd (ee Darwin, Y Cymro a'r Cynllwyn). Ond roedd ymchwil Elwyn Hughes yn ymestyn ymhell tu hwnt i'r un gwyddonydd yma, a hir bu ei ymweliadau a'r Llyfrgell Brydeinig a llyfrgelloedd eraill. Amlygwyd ei gariad at y Gymraeg (mewn Gwyddoniaeth) yn y gyfrol Nid am un Harddwch Iaith (1991) am ryddiaith Gwyddoniaeth yn y 19eg. Yn 2003 cyhoedded Dysgl Bren, Dysgl Arian. Nodiadau ar Hanes Bwydydd yng Nghymru. Yn hwn ceir ymdriniaeth o'r pwnc sydd nid yn unig o ddiddordeb cyffredinol ond yn ffynhonnell gwybodaeth ymchwil i hanes a bioleg ymbortheg. Bu'n cyfrannwr cyson at weithgareddau Cymdeithas Bob Owen, a'i gyfnodolyn Y Casglwr, a hefyd i'r Faner Newydd (lle mae teyrngedau iddo gan Emyr Llywelyn a Glyn O. Phillips).

Yn 1983 anrhydeddwyd Elwyn Hughes ag Urdd Derwydd yn Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad at Wyddoniaeth a'r Iaith Gymraeg.

Anfynych y gwelwyd cyfeiriad at yr "R" yn enw Elwyn Hughes, ac yn fwy aml fel "R.E.H." mae son amdano ar glawr. Ond bu'r "R" (am Richard) yn bwysig i'w ymwahanu o sawl Elwyn Hughes arall yn ei oes.

Bywyd personol

Roedd yn briod a Ceri a bu iddynt ferch Nia a mab Rhodri.

Bu farw ym Mhentyrch, Caerdydd, lle ymgartrefodd.

Cerdd Cyfarch

Yng Nghaergrawnt, ar y lawntiau

Y mynnai iaith i'w mwynhau,

Eithr iaith pur ddieithr oedd hi

I un oedd wedi'i eni

I synio mewn Saesoneg

Ym mro encil y Gymraeg.

Mwynhau wnaeth, a'i mynnu hi,

Rhoddodd ei oriau iddi.

Iaith ei ford, iaith labordy

Iaith ffel i'w harddel yn hy.

Iaith smart ac iaith ei gartref

Iaith ei waith a'i ymchwil ef.

Ddysgedig a sgeptig ŵr,

On'd ydwyt yn Undodwr?

Y savant o Faesyfed,

Y di-lol ei hyd a'i led,

Mor gymen dy lên a'th lith,

Elwyn, rwyt ti'n athrylith.

Onid wyt eilun ein dydd,

Elwyn, ti yw'n Medalydd.

(Iolo Wyn Williams. Seremoni Fedal yr Eisteddfod (2005))

Llyfryddiaeth

Y Casglwr (detholiad)
  • Lewis Weston Dillwyn a'r Gymraeg, Y Casglwr 61 (1997), 20
  • Cymraeg y Sais ~ Dyfaliad R.Elwyn Hughes (2008)
  • John Jones, Syr John, a'r Lleuad (2008)
Y Gwyddonydd ac eraill (detholiad)
  • Canrif o Wyddoniaeth. Trafodion y Gymdeithas Wyddonol, Rhif 8 (1985)
  • Alwminiwm mewn bwydydd. Y Gwyddonydd - Cyf. 27, Rhif 1 Haf 1989
  • Golwg newydd ar ffibr lluniaethol. Y Gwyddonydd - Cyf. 27, Rhif 1 Haf 1989

Cyfeiriadau

Tags:

Gwyddonydd R. Elwyn Hughes Bywyd cynnar ac addysgGwyddonydd R. Elwyn Hughes GyrfaGwyddonydd R. Elwyn Hughes Bywyd personolGwyddonydd R. Elwyn Hughes Cerdd CyfarchGwyddonydd R. Elwyn Hughes LlyfryddiaethGwyddonydd R. Elwyn Hughes CyfeiriadauGwyddonydd R. Elwyn Hughes18 Hydref1928201530 TachweddAsid ascorbigBiocemeg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Bethan Rhys RobertsAdran Gyfiawnder yr Unol DaleithiauCymraegBen EltonRhif Cyfres Safonol RhyngwladolParalelogramJiwtL'chayim, Comrade Stalin!Kristen StewartDe Clwyd (etholaeth Cynulliad)MelatoninLlangernywDar es SalaamOrganau rhywRhestr o ganeuon a recordiwyd gan Richie ThomasTony Lewis (FWA)SeattleThe Cincinnati KidEginynMynyddSwedenWicilyfrauHwngaregAlldafliad benywFirwsSalakoMET-ArtBangladeshWikipediaStygian277 CCDisgyrrwr caledJeremi CockramCynnwys rhyddTerfysg Paris 1968Ynys MônTipitLeo VaradkarIfor ap LlywelynDewi 'Pws' Morris19eg ganrifDiwydiant llechi CymruIRCPeter HiggsY FanerCynhaiarnPaulina ConstanciaSigarét electronigYr Undeb SofietaiddIeithoedd RomáwnsDyffryn CeiriogHawaiiGweledigaethau y Bardd CwscMedal Ddrama Eisteddfod yr UrddPrif Weinidog India9/11 EntschlüsseltActinidLena Meyer-LandrutAgnosticiaethGorsaf reilffordd LlandudnoHuw ChiswellAuschwitzRhadweddRhiwnachorGwladwriaeth Palesteina🡆 More