Cangen o Gristnogaeth Brotestannaidd yw Adfentyddiaeth sydd yn cynnwys sawl enwad sydd yn olrhain eu dysgeidiaeth i'r pregethwr o Fedyddiwr William Miller, un o arweinwyr yr adfywiad Americanaidd yn y 19g.
Cyhoeddodd Miller y byddai Iesu Grist yn dyfod yn ôl i'r byd rhywbryd ym 1843 neu 1844.
Llwyddodd Miller i ddenu nifer o wrandawyr, ond cawsant eu dadrithio gan fethiant dyfodiad Iesu, yr hyn a elwir yn y Siomedigaeth Fawr. Rhannodd mudiad Miller yn sawl enwad, ar sail diwinyddiaeth ac athrawiaeth wahanol. Yr eglwys fwyaf ohonynt yw Adfentyddion y Seithfed Dydd, sydd yn cadw'r Saboth ar Ddydd Sadwrn. Mae tarddiad y Cristadelffiaid a Thystion Jehofa hefyd yn perthyn i Adfentyddiaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Adfentyddiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.