Un o adeiladau Prifysgol Caerdydd yw Adeilad Bute, a leolir ym Mharc Cathays.
Lleolir adrannau pensaernïaeth, newyddiaduraeth ac astudiaethau'r cyfryngau a diwylliant y brifysgol yno. Coleg Technegol Caerdydd oedd deiliad gwreiddiol yr adeilad neo-glasurol hwn. Enillwyd y gystadleuaeth i'w gynllunio gan y penseiri Ivor Jones a Percy Thomas ym 1911. Dyma felly oedd adeilad cyntaf y ffỳrm bensaernïol a elwid yn hwyrach yn Bartneriaeth Percy Thomas, a barodd hyd 2004. Agorwyd yr adeilad ym 1916, ac ychwanegwyd adain y gorllewin ym 1927. Mae'r cerflun ar y tu allan o ddraig goch yn dal cledren ddanheddog yn waith gan David Petersen a wnaed ym 1980. Penodwyd yr adeilad hwn yn adeilad rhestredig Gradd II ym 1966.
Math | adeilad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Caerdydd |
Lleoliad | Parc Cathays, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 10 metr |
Cyfesurynnau | 51.4865°N 3.1826°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.