Brwydr yn Rhyfeloedd y Rhosynnau oedd Brwydr Tewkesbury ar 4 Mai 1471 a ymladdwyd yn ystod y nos ac a barodd tair awr, gan orffen gyda'r wawr yn torri.
Yr Iorcydd Edward IV, brenin Lloegr oedd yn fuddugol. Lladdwyd dros fil o Lancastriaid a 500 o Iorciaid a bu farw Edward o San Steffan, Tywysog Cymru, yn y frwydr.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 4 Mai 1471 |
Rhan o | Rhyfeloedd y Rhosynnau |
Lleoliad | Tewkesbury |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lladdwyd nifer o uchelwyr gan gynnwys: John Beaufort, dug Somerset a Warwick. Yn dilyn y frwydr, ar 21 Mai, cyrhaeddodd Lundain gyda'i filwyr, i hawlio'r Coron Lloegr; y noson honno bu farw Harri VI yn Nhŵr Llundain. Tra ymladdwyd y frwydr, roedd Harri Tudur ifanc yn saff yng Nghastell Penfro a'i ewyrth Siasbar Tudur yn pendroni oblygiadau'r frwydr a pha gamau i'w cymryd i ddyrchafu Harri i'r orsedd. Yn dilyn hyn dihangodd y ddau i Benfro ac oddi yno i Lydaw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brwydr Tewkesbury, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.