Uchelwr Cymreig oedd Siasbar Tudur (Tachwedd 1431–21 Rhagfyr 1495); roedd yn Iarll Penfro a Dug Bedford, yn hanner brawd i Harri VI, brenin Lloegr ac yn ewythr i Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr).
Gyda'i frawd hŷn Edmwnd Tudur (tua 1430–1456), tad Harri Tudur, yr oedd Siasbar yn un o bum plentyn Owain Tudur ac yn ddisgynnydd uniongyrchol i Ednyfed Fychan (m. 1246), distain (canghellor) pwerus Llywelyn Fawr. Caterin o Valois oedd ei fam: merch brenin Siarl VI o Ffrainc a gweddw Harri V, brenin Lloegr. I bob pwrpas Siasbar oedd yn rheoli de-orllewin Cymru o'i gadarnle yng Nghastell Penfro. Bu ganddo ran allweddol yn Rhyfeloedd y Rhosynnau fel prif gynrychiolydd y Lancastriaid yng Nghymru ac yn ymgyrchoedd ei nai, a wnaed yn ward iddo, i ennill coron Lloegr.
Siasbar Tudur | |
---|---|
Siasbar; ffenestr yng Nghastell Caerdydd. | |
Ganwyd | c. 1431 Swydd Hertford |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1495 Castell Thornbury |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person milwrol |
Swydd | Arglwydd Raglaw yr Iwerddon |
Tad | Owain Tudur |
Mam | Catrin o Valois |
Priod | Catherine Woodville, duges Buckingham |
Plant | Helen Tudor |
Llinach | Tuduriaid Penmynydd |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Erbyn 1460 roedd Siasbar mewn sefyllfa mor gryf nid yn unig yn y de-orllewin ond mewn rhannau eraill o'r wlad trwy'r swyddi niferus yr oedd wedi ennill i'w hun fel ei fod bron yn rheoli'r wlad.
Ar ôl i'r Iorciaid drechu'r Lancastriaid ym Mrwydr Croes Mortimer (1461), bu Siasbar yn alltud, yn yr Alban a Ffrainc, ond yn dilyn Brwydr Tewkesbury ym Mai 1471 dihangodd gyda Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Francis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Buont yn Llydaw rhwng 1471 a 1484 cyn i'r ddau ddychwelyd i Benfro gyda milwyr arfog a chychwyn ar eu gorymdaith drwy Gymru a arweiniodd i Frwydr Maes Bosworth.
Fel y rhan fwyaf o uchelwyr eraill Cymru, noddai Siasbar y beirdd. Un o'r beirdd pwysicaf i ganu iddo oedd Lewys Glyn Cothi. Roedd Lewys yn Lancastriad brwd a gwladgarwr Cymreig pybyr. Dywed mewn un o'i lawysgrifau ei fod wedi mynd "ar herw er mwyn arglwydd Penfro," ar ôl i'r Iorciaid ennill brwydr Croes Mortimer. Canodd awdl frud iddo a'i nai yn y gobaith y byddent yn dychwelyd yn fuan i adfer y Brythoniaid a gyrru'r Saeson yn ôl i'r môr:
Canodd sawl bardd arall i Siasbar hefyd, gan gynnwys Dafydd Nanmor.
Ychydig dros ddeufis wedi Brwydr Maes Bosworth, ar 7 Tachwedd 1485, priododd Catherine Woodville (c. 1458–1509), gweddw Henry Stafford, ail ddug Buckingham, a merch Richard Woodville, Iarll 1af Rivers a Jacquetta o Lwcsembwrg. Roedd Catherine yn chwaer i Elizabeth Woodville, wraig Edward IV, ac yn modryb i blant Edward IV - Edward V a Rhisiart Dug Iorc (y tywysogion yn y Tŵr) a'u chwaer hynaf, Elizabeth Iorc, wraig Harri VII. Amcan Harri VII wrth priodi Elizabeth Iorc oedd cadarnhau'r undeb llwyddiannus yn erbyn Rhisiart III rhwng gweddillion y Lancastriaid a hen cefnogwyr Edward IV, yn enwedig teulu'r Woodvilles.
Ni chafodd Siasbar plant gyda'i wraig Catherine.
Mae'n sicr bod ganddo o leiaf un plentyn anghyfreithlon, merch o'r enw Helen neu Elen, priod William Gardiner o Lundain. Cawsant fab, Tomos Gardiner, mynach yn abaty Westminster a phennaeth Priordy Tynemouth. 'Roedd y ffaith bod Tomos yn ŵyr i Siasbar yn adnabyddus yn llys Harri VIII. Yn 1528 pennodwyd Tomos yn pennaeth Priordy Tynemouth, gyda cefnogaeth Mary Boleyn, chwaer Anne Boleyn, ac yn ol pob tebyg cefnogaeth y Cardinal Thomas Wolsey hefyd. Yn 1530 clywodd yr herald Thomas Tonge cais Tomos Gardiner i ddefnyddio pais arfau ei daid Siasbar, gyda'r 'baton sinister'. Croniclodd Tomos hanes Lloegr, mewn dogfen o'r enw The Flowers of England, a llinach y Tuduriaid. Daeth yn offeiriad i'w ewyrth y brenin yn Llundain lle ysgrifennodd bropaganda yn dyrchafu Harri VIII.
Nid oes sail i'r chwedl, a geir mewn ambell gwaith hanesyddol o'r 19fed ganrif, bod Siasbar yn hendaid i Stephen Gardiner, esgob enwog Winchester o dan Harri VIII. Mae'r chwedl yma yn tarddu o gymysgu Thomas Gardiner, pennaeth Priordy Tynemouth, a'r esgob Stephen. A nid oes sail ychwaith i goelio bod Siasbar yn tad i blentyn arall anghyfreithlon, o'r enw Siwan neu Joan Tudor, gyda chysylltiad a theulu Thomas Cromwell, Iarll cyntaf Essex, na bod Siasbar yn hendaid i Oliver Cromwell.
Pendefigaeth Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Creadigaeth newydd | Dug Bedford 1485–1495 | Olynydd: Diflanedig |
Rhagflaenydd: Creadigaeth newydd | Iarll Penfro 1452–1461 1485–1495 | Olynydd: Diflanedig |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Siasbar Tudur, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.