Cymeriad yn yr Hen Destament a mab i Abraham oedd Isaac (Hebraeg: יִצְחָק, Yitzchak, Arabeg: إسحٰق, ʾIsḥāq).
Yn draddodiadol, Isaac yw cyndad yr Iddewon, a'i hanner-brawd Ishmael yw cyndad yr Arabiaid. Ystyrir ef yn broffwyd gan Islam hefyd.
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol yn y Beibl |
---|---|
Aelod o'r canlynol | Patriarchs |
Enw brodorol | יצחק |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ganed Isaac i Sarah, gwraig Abraham, pan oedd hi eisoes yn ei henaint ac wedi bod yn ddiblant am flynyddoedd lawer. Rai blynyddoedd wedyn, cafodd Abraham orchymyn gan Dduw i aberthu Isaac iddo. Paratôdd Abraham i wneud hynny, ond pan oedd ar fin aberthu ei fab, ymddangosodd angel i'w atal a rhoi dafad iddo i'w aberthu yn lle Isaac. Mae gŵyl Islamig Eid ul-Adha yn dathlu'r digwyddiad yma.
Wedi i Sarah farw, gyrrodd Abraham ei was Eliezer i Fesopotamia, i chwilio am wraig i Isaac, a dychwelodd gyda Rebecca. Daeth Isaac yn dad i Jacob ac Esau. Dywedir fod Isaac wedi ei gladdu yn Ogof y Patriarchiaid ger Hebron, gyda Rebecca ei wraig a'i rieni, Abraham a Sarah.
Yn Islam mae Isaac (Ishāq) yn cael ei barchu fel un o'r proffwydi. Mae Eid el-Adha ('Gŵyl y Defaid') yn cael ei dathlu mewn cof amdano, gŵyl flynyddol sy'n arbennig o boblogaidd yn y Maghreb.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Isaac, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.