Un o arweinwyr Terfysg Casnewydd yn 1839 oedd Zephaniah Williams (1795 - 8 Mai 1874).
Yn enedigol o Argoed, Sir Fynwy. Cafodd peth addysg a hefyd addysgodd ei hun, yn arbennig mewn daeareg. Yn 25ain oed priododd Joan. Roedd ganddo syniadau radical cryf. daeth yn golier ac wedyn yn brif golier a byddai yn talu ei lowyr yn y dafarn yr oedd yn ei gadw, sef y Royal Oak, yn Nantyglo.
Zephaniah Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1795 Argoed |
Bu farw | 8 Mai 1874 Launceston |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | glöwr |
Dyn annibynnol ei farn, oedd Zephaniah Williams, ac roedd yn cynnal cyfarfodydd 'Cymdeithas y Gweithwyr' yn ei gartref. Daeth yn arweinydd naturiol i ymgyrch y siartwyr yn Ne Cymru.
Arweiniodd torf o ddynion o ardal Nantyglo i lawr i Gasnewydd, ac at Westy'r Westgate ble roedd rhai o hoelion wyth y siartwyr wedi eu dal gan dros 30 o filwyr. Ei gyd-arweinwyr oedd John Frost a William Jones (Siartydd). Yn ôl rhai haneswyr, dyma'r gwrthryfel mwyaf a chryfaf yng ngwledydd Prydain yn y 19g..
Cafodd ef a'r ddau arweinydd arall eu dedfrydu i'w crogi a'i chwarteru ar 16eg o Ionawr 1840, ond ar ôl protest gryf iawn, newidiwyd hyn i alltudiaeth i Van Diemen's Land (Tasmania, heddiw) yn Awstralia.
Ar un cyfnod, gwyddom iddo gynllunio i ddianc o'r cyfandir ond cafodd bardwn amodol yn 1854 yn gadael iddo fyw unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Penderfynodd aros yn Tasmania a daeth ei wraig a'i blant i fyw gyda fe. Wrth ddarganfod glo a'i fwyngloddio gwnaeth ffortiwn wrth sefydlu masnach lo Tasmania.
Bu farw'n ŵr cefnog iawn yn Launceston, Tasmania ym Mai, 1874.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Zephaniah Williams, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.