Ysgol gynradd Gymraeg yn Aberystwyth ydy Ysgol Gymraeg Aberystwyth (neu Ysgol Gymraeg yr Urdd fel y'i hadnabyddir yn wreiddiol).
Hwn oedd ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru.
Math | ysgol, ysgol Gymraeg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth |
Sir | Cymru, Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.41°N 4.07°W, 52.4102°N 4.07124°W |
Cod post | SY23 1HL |
Agorwyd yr ysgol ar 25 Medi 1939 dan nawdd Urdd Gobaith Cymru ac fe'i sefydlwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards fel ysgol breifat, a chodwyd tâl o 4 gini y tymor. Y brifathrawes oedd Norah Isaac, a gyflogwyd am £160 y flwyddyn. Saith disgybl oedd yn ei mynychu i ddechrau: Owen Edwards, Non Gwynn, James Jenkin, Daniel G. Jones, John Wyn Meredith, John Parry a Ruth Thomas. Tyfodd nifer y plant yn gyson: 17 yn 1940, 32 yn 1942, a 56 yn 1944.
Bu ei sefydlu yn drobwynt yn hanes addysg yng Nghymru gan iddi arloesi'r maes a bod y gyntaf o lawer o ysgolion Cymraeg a sefydlwyd wedi hynny, y rhan fwyaf ohonynt gan Awdurdodau Addysg lleol.
Agorwyd yr ysgol gyntaf ar Ffordd Llanbadarn, gan symud i safle yn Lluest ym 1946. Symudodd unwaith eto i safle Ysgol Ffordd Alecsandra ym 1952. Ym 1989 symudodd i'w safle presennol ym Mhlascrug.
Dechreuodd yr ysgol gyda dim ond 7 o ddisgyblion, ond mae hyn wedi tyfu i dros 400 heddiw; ehangodd yr ysgol lawer yn ystod yr 1980au a'r 1990au pan ddechreuodd rhieni weld gwerth addysg ddwyieithog. Daeth tua 48% o ddisgyblion yr ysgol o aelwydydd Cymraeg eu hiaith yn 2009. Erbyn heddiw mae gan yr ysgol 18 o athrawon, dros 20 cynorthwyydd, a 15 o staff ategol.
Y prifathro ar hyn o bryd yw Mr. Clive Williams.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgol Gymraeg Aberystwyth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.