Y Tu Allan I'r Ardal

Mae'r term y tu allan i'r ardal (Saesneg: out of area) yn cyfeirio at weithredoedd naill ai gan y cynghrair milwrol o NATO neu mewn cyd-destunau arbennig gan wladwriaethau unigol sydd yn aelodau NATO a ddigwyddir mewn tiriogaethau y tu hwnt i ffiniau aelod-wladwriaethau NATO.

Yn ôl Erthygl 5 Cytundeb Gogledd yr Iwerydd, y cytundeb a sefydlodd NATO, addewir yr arwyddwyr i ystyried ymosodiad ar un o aelodau'r cynghrair yn ymosodiad ar bob un ohonynt. Diffiniwyd ardal gweithredu NATO, hynny yw yr ardal sydd yn destun i Erthygl 5, gan Erthygl 6, gan gynnwys tiriogaethau'r aelod-wladwriaethau yng Ngogledd America ac Ewrop, tiriogaeth Ffrengig Algeria, lluoedd meddiannu'r aelodau yn Ewrop, ac ynysoedd, llongau, ac awyrennau a berchnogir gan aelodau yn ardal Gogledd yr Iwerydd uwchben Trofan Cancr. Gelwir yr ardal hon yn aml yn ardal Gogledd yr Iwerydd neu'r ardal Ewro-Iwerydd.

Y tu allan i'r ardal

Pan arwyddwyd Cytundeb Gogledd yr Iwerydd ym 1949, roedd gan nifer o'r gwladwriaethau a'i arwyddodd ddiddordebau pwysig y tu allan i diriogaeth uniongyrchol y cynghrair. Roedd gan y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, a Phortiwgal i gyd drefedigaethau yn Affrica ac Asia, ac roedd gan yr Unol Daleithiau ddiddordebau economaidd a milwrol o gwmpas y byd. Er nad oedd rhwymedigaeth gyfreithiol gan aelod-wladwriaethau NATO i gynorthwyo'i gilydd y tu allan i'r ardal, yr oedd disgwyliad anffurfiol ymysg gwladwriaethau y gallent ddibynnu ar eu cynghreiriaid am rywfaint o gymorth.

Yn wreiddiol cyfeiriodd y term at ymgyrchoedd brwydro ar raddfa fawr, ond erbyn heddiw mae'n cynnwys amrediad eangach o weithredoedd milwrol, gan gynnwys rheoli argyfyngau, cadw'r heddwch, a heddychu, a ddigwyddir y tu allan i ffiniau aelodau'r cynghrair.

Yn ystod y Rhyfel Oer bu dadleuon dros rôl NATO mewn materion y tu allan i'w ardal a arweiniodd at ambell anghydfod difrifol iawn rhwng cynghreiriaid, yn bennaf argyfwng Suez ym 1956 a'r ymateb i oresgyniad Affganistan gan yr Undeb Sofietaidd ym 1979. Ond ers cwymp Cytundeb Warsaw, gelyn NATO, ar ddiwedd y Rhyfel Oer bu mwy o undod yn y cynghrair parthed materion y tu allan i'w ardal, gan ddechrau â Rhyfel y Gwlff. Yn y 1990au ymyrrodd NATO yn uniongyrchol mewn dau ryfel yn y Balcanau, ac ym 1999 cytunwyd ar Gysyniad Strategol newydd gan y cynghrair i ganiatáu ymgyrchoedd nad oedd yn cwrdd ag amodau Erthygl 5. Parhawyd ymyraethau gan NATO yn yr unfed ganrif ar hugain yn Affganistan a Libia.

Argyfwng Suez

Goresgyniad Affganistan gan yr Undeb Sofietaidd

Rhyfel Bosnia

    Prif: Ymgyrch Grym Bwriadol

Rhyfel Kosovo

Rhyfel Affganistan

Rhyfel Cartref Libia

Cyfeiriadau

Ffynonellau

  • Medcalf, J. NATO: A Beginner's Guide (Rhydychen, Oneworld, 2005).
  • Rynning, S. NATO Renewed: The Power and Purpose of Transatlantic Cooperation (Basingstoke, Palgrave Macmillan, 2005).
  • Thies, W. J. Why NATO Endures (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2009).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: y tu allan i'r ardal o'r Saesneg "out of area". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Tags:

Y Tu Allan I'r Ardal Argyfwng SuezY Tu Allan I'r Ardal Goresgyniad Affganistan gan yr Undeb SofietaiddY Tu Allan I'r Ardal Rhyfel BosniaY Tu Allan I'r Ardal Rhyfel KosovoY Tu Allan I'r Ardal Rhyfel AffganistanY Tu Allan I'r Ardal Rhyfel Cartref LibiaY Tu Allan I'r Ardal CyfeiriadauY Tu Allan I'r Ardal FfynonellauY Tu Allan I'r ArdalAelod-wladwriaethau NATOAlgeria FfrengigCynghrair milwrolCytundeb Gogledd yr IweryddGogledd yr IweryddNATOSaesnegTrofan Cancr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

TrydanCernywiaidY RhegiadurDydd MercherDisturbiaNargisAbdullah II, brenin IorddonenRhyw llawEsyllt SearsKatwoman XxxVladimir PutinTŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)Immanuel KantAfon CleddauMegan Lloyd GeorgeEdward Morus JonesY DdaearGreta ThunbergTîm pêl-droed cenedlaethol CymruAfon YstwythGwainBorn to DanceDeddf yr Iaith Gymraeg 1967GwybodaethMuscatIsabel IceLead BellyMoscfaBugail Geifr LorraineRhestr dyddiau'r flwyddynYr AlmaenEagle Eye1933AstwriegYsgol Dyffryn AmanChildren of DestinyPhilippe, brenin Gwlad BelgOlwen ReesThe Color of MoneyAneirin KaradogYsgol Gyfun Gymunedol PenweddigY LolfaNovialFfuglen llawn cyffroChicagoMoliannwnParth cyhoeddusOrganau rhywWiciTwyn-y-Gaer, LlandyfallePerlau TâfIncwm sylfaenol cyffredinolMean MachineGwefanArlywydd yr Unol DaleithiauRecordiau CambrianCaernarfonGwlad PwylRwsiaY Mynydd BychanAlexandria RileyElectronegFfilm llawn cyffro🡆 More