Rhyfel rhyngwladol ym Mosnia a Hercegovina a barhaodd o fis Ebrill 1992 i fis Rhagfyr 1995 oedd Rhyfel Bosnia neu Ryfel Bosnia a Hercegovina.
Prif frwydrwyr y gwrthdaro oedd lluoedd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina a lluoedd dau endid hunan-ddatganedig o fewn Bosnia a Hercegovina, Republika Srpska (oedd yn cynrychioli Serbiaid Bosniaidd) a Herzeg-Bosnia (oedd yn cynrychioli Croatiaid Bosniaidd). Derbyniodd Republika Srpska gefnogaeth wleidyddol a milwrol sylweddol gan Serbia, a Herzeg-Bosnia cefnogaeth gan Groatia.
Rhyfel Bosnia | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o Ryfeloedd Iwgoslafia | ||||||||
Clocwedd o'r chwith: Adeilad y senedd yn Sarajevo yn llosgi wedi iddo gael ei fwrw gan dân tanciau Serbiaidd ym Mai 1992; Ratko Mladić gyda milwyr Serbaidd-Fosniaidd; milwr y Cenhedloedd Unedig o Norwy yn Sarajevo. | ||||||||
| ||||||||
Cydryfelwyr | ||||||||
1992–94: Gweriniaeth Bosnia a Hercegovinaa 1994-95: Croatia Gweriniaeth NATO | 1992-94: Gweriniaeth Groataidd Herzeg-Bosnia Croatia | 1992-94: Republika Srpska Talaith Ymreolaethol Gorllewin Bosnia (1993 ymlaen) | ||||||
Arweinwyr | ||||||||
Alija Izetbegović (Arlywydd Bosnia a Hercegovina) Sefer Halilović Rasim Delić | Franjo Tuđman (Arlywydd Croatia) Janko Bobetko Mate Boban Milivoj Petković Dario Kordić | Slobodan Milošević (Arlywydd Serbia) Radovan Karadžić Ratko Mladić Fikret Abdić (Arlywydd dros dro Talaith Ymreolaethol Gorllewin Bosnia) | ||||||
Nerth | ||||||||
~100 o danciau ~200,000 o filwyr traed | ~300 o danciau ~70,000 o filwyr traed | 600-700 o danciau 120,000 o filwyr traed | ||||||
Anafusion a cholledion | ||||||||
31,270 milwyr yn farw 33,071 sifiliaid yn farw | 5,439 milwyr yn farw 2,163 sifiliaid yn farw | 20,649 milwyr yn farw 4,075 sifiliaid yn farw | ||||||
a Ar y pryd ni chefnogwyd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan y mwyafrif o Groatiaid Bosniaidd a Serbiaid Bosniaidd (oedd ag endidau eu hunain). O ganlyniad, roedd yn gynrychioli Bosniaciaid o fewn Bosnia a Hercegovina yn bennaf. Mae'r wladwriaeth gyfoes Bosnia a Hercegovina yn cynnwys y tri phrif grŵp ethnig Bosniaidd. b Rhwng 1994 a 1995, cefnogwyd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan Fosniaciaid a Chroatiaid Bosniaidd ethnig, a chynrychiolwyd y grwpiau hynny gan y weriniaeth, yn bennaf oherwydd Cytundeb Washington. |
Daeth y rhyfel o ganlyniad i chwalu Iwgoslafia. Yn dilyn ymwahaniad Slofenia a Chroatia oddi ar Iwgoslafia ym 1991, pasiwyd refferendwm dros annibyniaeth gan weriniaeth Iwgoslafaidd Bosnia a Hercegovina ar 29 Chwefror 1992. Roedd gan y weriniaeth boblogaeth aml-ethnig, oedd yn cynnwys Bosniaciaid Mwslimaidd (44%), Serbiaid Uniongred (31%), a Chroatiaid Catholig (17%). Boicotwyd y refferendwm gan gynrychiolwyr gwleidyddol Serbaidd-Fosniaidd a gwrthodasant ei ganlyniad, gan sefydlu gweriniaeth eu hunain o'r enw Republika Srpska. Yn dilyn y datganiad annibyniaeth, ymosododd lluoedd Serbaidd-Fosniaidd ar Weriniaeth Bosnia a Hercegovina, gyda chefnogaeth llywodraeth Gweriniaeth Serbia dan Slobodan Milošević a Byddin Pobl Iwgoslafia (JNA), er mwyn sicrháu tiriogaeth Serbaidd. Dechreuodd rhyfel ar draws Bosnia, gyda glanhau ethnig yn erbyn y boblogaeth Fosniac, yn enwedig yn Nwyrain Bosnia.
Gwrthdaro tiriogaethol oedd y rhyfel yn bennaf, yn wreiddiol rhwng Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina, y mwyafrif o'i filwyr yn Fosniaciaid, a lluoedd Croataidd-Fosniaidd ar yr un ochr, a lluoedd Serbaidd-Fosniaidd ar yr ochr arall. Bwriadai'r Croatiaid hefyd i sicrháu rhannau o Fosnia a Hercegovina yn diriogaeth Groataidd. Cytunodd yr arweinyddiaeth Serbaidd a Chroataidd i rannu Bosnia gyda chytundebau Karađorđevo a Graz, ac o ganlyniad trodd lluoedd Croataidd yn erbyn Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan arwain at y Rhyfel rhwng y Croatiaid a'r Bosniaciaid. Nodweddwyd y rhyfel gan ymladd chwerw, sielio diwahân o ddinasoedd a threfi, glanhau ethnig, trais rhywiol systematig ar raddfa eang, a hil-laddiad. Daeth digwyddiadau megis Gwarchae Sarajevo, gwersyll Omarska, a chyflafan Srebrenica i nodweddu'r gwrthdaro.
Er fod y Serbiaid yn wreiddiol yn uwchraddol o ran arfau ac adnoddau o ganlyniad i gefnogaeth y JNA, yn y bôn collasant grym pan ymunodd Bosniaciaid a Chroatiaid yn erbyn Republika Srpska ym 1994 gan greu Ffederasiwn Bosnia a Hercegovina yn sgîl Cytundeb Washington. Yn dilyn cyflafanau Srebrenica a Markale, ymyrrodd NATO yn ystod Ymgyrch Grym Bwriadol ym 1995 yn erbyn Byddin Republika Srpska gan ryngwladoli'r gwrthdaro yn ei gamau olaf. Daeth y rhyfel i ben yn sgîl Cytundeb y Fframwaith Cyffredinol ar gyfer Heddwch ym Mosnia a Hercegovina ym Mharis ar 14 Rhagfyr 1995. Cynhaliwyd trafodaethau heddwch yn Dayton, Ohio, a phenderfynwyd ar Gytundeb Dayton ar 21 Rhagfyr 1995. Yn ôl adroddiad o'r rhyfel a wnaed gan yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA) ym 1995, lluoedd Serbaidd oedd yn gyfrifol am 90% o droseddau rhyfel yn ystod y gwrthdaro. Erbyn 2008 cafwyd 45 o Serbiaid, 12 o Groatiaid, a 4 Bosniac yn euog o droseddau rhyfel yn gysylltiedig â Rhyfel Bosnia gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia. Mae'r ymchwil diweddaraf yn awgrymu bu farw 100,000–110,000 o bobl a dadleolwyd dros 2.2 miliwn, gan ei wneud yn y gwrthdaro mwyaf ddifrodus yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhyfel Bosnia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.