Dydd Calan yw'r enw ar gyfer diwrnod cyntaf y flwyddyn, sef 1 Ionawr.
Gall y gair "calan" hefyd gyfeirio at ddydd cyntaf mis. Arferid credu nifer o goelion a oedd yn berthnasol i'r diwrnod cyntaf o'r flwyddyn e.e. arwyddocâd y person cyntaf i ddod dros trothwy'r drws. Ym Mhenfro aethpwyd â dŵr o gwmpas y tai i'w ddiferyd dros y trigolion i sicrhau hapusrwydd am weddill y flwyddyn. Roedd hel calennig yn arferiad drwy Gymru benbaladr. Mewn ardaloedd eraill yr arferiad oedd i ddyn penddu ymweld â'r tŷ efo darn o lo; deuai hyn â lwc dda i'r trigolion.
Yn 1752 newidiwyd y dyddiad i'r un presennol; cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd 13 Ionawr. Mae rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r Hen Galan e.e. Cwm Gwaun a Llandysul ar sail yr hen galendr Iwlaidd gafodd ei ddisodli ym 1752 gan galendr Gregori.
Dyma rai penillion sy’n cael eu canu ar 13 Ionawr:
Mae'r gair "calan" yn dod o'r gair Lladin calendae "y galwedig", yr enw ar gyfer diwrnod cyntaf pob mis yn y calendr Rhufeinig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dydd Calan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.