William Henry Yelverton: Tirfeddianwr a gwleidydd Cymreig

Roedd yr Anrhydeddus William Henry Yelverton (5 Mawrth 1791 – 28 Ebrill 1884) yn dirfeddiannwr a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Chwig Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1832 a 1835

William Henry Yelverton
William Henry Yelverton: Ystâd, Gyrfa Wleidyddol, Achos Thelwell v. Yelverton
William Henry Yelverton (tua 1853)
Ganwyd5 Mawrth 1791 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 1884 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadWilliam Yelverton, 2nd Viscount Avonmore Edit this on Wikidata
MamMary Reade Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Lucy Morgan Edit this on Wikidata
PlantMary Elizabeth Yelverton, Louisa Anne Yelverton, Henrietta Maria Yelverton, William Henry Morgan Yelverton Edit this on Wikidata

Ganwyd Yelverton yn Belle Isle, Iwerddon yn fab i William Charles Yelverton 2il Ardalydd Avonmore a Mary, merch John Reid, ei wraig.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton cofrestrodd fel myfyriwr yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen

Ym 1825 priododd Elizabeth Lucy, merch John Morgan, Fwrnais, bu hi farw ym 1863; bu iddynt un mab a thair merch.

Ystâd

Ym 1811 etifeddodd Yelverton ystâd Blaiddbwll gan ewythr i'w mam y Capten John Parr, ategwyd at yr eiddo trwy ei briodas pan ddaeth yn berchennog ar waith haearn Caerfyrddin a phwll glo yn ogystal â thir yn ardal Caerfyrddin a Llanelli gan gynnwys ystâd Abaty Hendy-gwyn ar Daf.

Erbyn 1878 roedd wedi mynd i drafferthion ariannol ac fe wnaed yn fethdalwr .

Gyrfa Wleidyddol

Etholwyd Yelverton fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin yn Etholiad Cyffredinol 1832 ond fe gollodd ei sedd i'r Torïaid yn etholiad 1835.

Er ei fod wedi bod yn AS Chwig / Rhyddfrydol, yr oedd yn un o'r landlordiaid a fu'n gyfrifol am y torri allan mawr ar ôl Etholiad Cyffredinol 1868, lle cafodd nifer o denantiaid eu taflu allan o'u ffermydd gan y tirfeddianwyr am gefnogi ymgeiswyr Rhyddfrydol yn hytrach na dilyn cyfarwyddyd y landlord i gefnogi'r Ceidwadwyr .

Bu'n Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1853

Achos Thelwell v. Yelverton

Ym mis Awst 1852 cyfarfu'r Uwchgapten William Charles Yelverton, Is-iarll Avonmore, a nai William Henry, merch o'r enw Maria Theresa Longworth tra ar daith stemar yn ôl o Ryfel y Crimea lle fu o'n filwr a hi'n nyrs. Syrthiodd Miss Longworth mewn cariad ag ef a bu yn ei ganlyn am sawl blwyddyn. Ar 15 Awst 1857 priododd y ddau yn gyfrinachol yn Rostrevor, Swydd Down, Iwerddon. Ond cyn pen blwyddyn priododd yr Is-iarll eto, heb ysgaru a'i wraig gyntaf. Roedd Avonmore yn honni nad oedd ei briodas i Miss Longworth yn ddilys.

O dan Statud Brenin Siôr II (19 Geo 2. c.13) yng nghyfraith Iwerddon, roedd unrhyw briodas rhwng Pabydd a Phrotestant neu briodas rhwng dau Brotestant a ddathlwyd gan offeiriad Catholig yn ddi-rym. Rhwng 21 Chwefror 1861 a 4 Mawrth 1861, cynhaliwyd achos Thelwall v Yelverton i farnu os oedd y briodas yn ddilys neu beidio. Er bod yr Uwch-gapten yn Brotestant, a Miss Longworth yn Gatholig Rufeinig, ac er eu bod wedi eu priodi gan offeiriad Catholig Rhufeinig, penderfyniad y llys oedd bod y briodas yn ddilys gan bod Yelverton wedi honni wrth ei ddarpar wraig ei fod yn Babydd. Ym mis Mawrth 1861 cafodd ei wahardd o bob dyletswydd filwrol. Ar 28 Gorffennaf 1864 ar apêl, gwrth-drowyd penderfyniad Thelwall v. Yelverton, a phenderfynodd Tŷ'r Arglwyddi fod priodas gyntaf William Charles yn anghyfreithlon, ac felly roedd ei ail briodas yn ddilys.

Bu William Henry a'i deulu yn ochri gyda Miss Longworth yn yr achos yn erbyn eu nai, gan achosi rhwyg teuluol. Yn wir, erbyn 1862, roedd William a Lucy eu hunain yn y llys, gan ddwyn achos o enllibio Miss Longworth yn erbyn brawd yng nghyfraith Avonmore, James Walker, a oedd wedi ysgrifennu llythyr iddynt yn eu beirniadu am barhau i gysylltu â Miss. Longworth wedi'r achos. Yn ôl Walker, roedd teulu Hendy Gwyn yn cefnogi Miss. Longworth oherwydd, pe bai ei phriodas i Avonmore wedi'i gadarnhau fel un dilys, yna byddai plant yr Is-iarll o'i (ail) briodas yn blant anghyfreithlon - ac felly byddai eu mab, Willie Yelverton, wedi cael dod yn etifedd i ystadau ac is-iarlliaeth Avonmore. Cyhuddodd Walker William Yelverton o ymddygiad mor hunanol, mor sylfaenol, mor annaturiol ei bod hi'n anodd credu ei bodolaeth. Collodd Walker yr achos a bu'n rhaid iddo dalu £500 o iawndal.

Marwolaeth

Bu Yelverton farw yn Llundain yn 93 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i'w gorwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys St Mair Hendy Gwyn.

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Jones
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
18321835
Olynydd:
David Lewis

Tags:

William Henry Yelverton YstâdWilliam Henry Yelverton Gyrfa WleidyddolWilliam Henry Yelverton Achos Thelwell v. YelvertonWilliam Henry Yelverton MarwolaethWilliam Henry Yelverton CyfeiriadauWilliam Henry Yelverton1791188428 Ebrill5 MawrthAelod SeneddolBwrdeistref Caerfyrddin (etholaeth seneddol)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

A. S. ByattTotalitariaethWashington (talaith)Cyfansoddair cywasgedigAdda o FrynbugaKatarina IvanovićTwo For The MoneyMentholHentai KamenTyrcestanInstagramCyfarwyddwr ffilmRhylBranchburg, New JerseyTywysog CymruMiller County, ArkansasAgnes AuffingerSaline County, ArkansasRhyfelRandolph, New JerseyJuan Antonio VillacañasAshland County, OhioThe Shock DoctrineRay AlanRhyfel IberiaMabon ap GwynforSutter County, CalifforniaConsertinaAmericanwyr SeisnigHen Wlad fy NhadauFrontier County, NebraskaClark County, OhioMuskingum County, OhioLawrence County, MissouriDelaware County, OhioMwncïod y Byd NewyddCeidwadaethEsblygiadY Forwyn FairMadeiraMartin LutherBig BoobsCIABrown County, NebraskaJoyce KozloffMorrow County, OhioYr Undeb EwropeaiddMichael JordanVittorio Emanuele III, brenin yr EidalBanner County, NebraskaAbdomenThe WayDawes County, NebraskaElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigCynghorydd Diogelwch Cenedlaethol (Yr Unol Daleithiau)Montevallo, AlabamaTwrciCAMK2BMount Healthy, OhioThe Iron GiantPoinsett County, ArkansasWhitewright, TexasHamesima XCymhariaethBettie Page Reveals AllBahrainG-FunkBoneddigeiddioJohn Betjeman1680The Doors🡆 More