| Mae'r dudalen hon yn sôn am ysgrifennu'ch erthygl gyntaf, nid dyma'r lle i'w hysgrifennu! Os rydych chi am arbrofi, defnyddiwch y pwll tywod neu'ch tudalen defnyddiwr. I greu erthygl, rhowch gynnig ar y Dewin Erthygl. |
| Mae'r dudalen hon yn grynodeb sylfaenol. Gallwch weld y cyfarwyddiadau llawn yn Wicipedia:Dechrau erthygl. |
Eglurir yr hyn y dylech ei wneud a pheidio gwneud, ac wedyn eglurir sut mae creu erthygl. Pan rydych yn barod i ysgrifennu, ystyriwch ddefnyddio'r Dewin Erthygl i'ch cynorthwyo fesul cam. Dyma rai awgrymiadau i'ch cychwyn arni:
- Awgrymwn eich bod yn cofrestru cyn creu erthygl newydd. Gall defnyddwyr anghofrestredig (anhysbys) holi am erthyglau newydd yn yr adran Erthyglau a geisir.
- Rhowch gynnig ar olygu erthyglau sydd eisoes yn bod i ymgyfarwyddo ag ysgrifennu a defnyddio iaith ychwanegiad sydd ar waith gyda Wicipedia.
- Chwiliwch Wicipedia yn gyntaf i wneud yn siŵr nad yw'r erthygl yn bodoli'n barod, efallai dan deitl arall gwahanol. Os yw'r erthygl yn bodoli'n barod, gallwch wneud golygiadau adeiladol ati os oes angen.
- Defnyddiwch gyfeiriadau er mwyn dangos bod bri gan bwnc eich erthygl dan sylw. Nid yw cyfeiriadau i flogiau, gwefannau personol a MySpace yn cyfrif fel arfer — mae angen ffynonellau dibynadwy arnom. Mae'n rhaid cymryd gofal i wneud yn siŵr bod ffynonellau gan bobl fyw -- dilëir erthyglau sydd ddim yn dynodi ffynonellau fel arfer.
- Ystyriwch ofyn am adborth. Gallwch ofyn am adborth ynghylch erthyglau yr ydych am eu creu mewn nifer o lefydd, gan gynnwys y dudalen sgwrs o WiciProsiect perthynol.
- Ystyriwch greu'r erthygl yn eich tudalen defnyddiwr yn gyntaf. Fel defnyddiwr cofrestredig, mae tudalen defnyddiwr eich hunan gennych. Gallwch ddechrau'r erthygl yno, ar is-dudalen; gallwch ei gwella, cymryd eich amser, gofyn i olygyddion eraill i weithio arno, a'i symud i'r Wicipedia "byw" unwaith mae'n barod yn unig. I greu'ch is-dudalen eich hunan, gweler yma. Pan fydd yr erthygl yn barod i'w "dangos", gallwch ei symud i mewn i'r prif Wicipedia. (Noder: mae gan y Dewin Erthygl ddewis i greu'r fath dudalennau drafft.)
- Cofiwch y caiff yr erthygl a grëir gennych ei dileu'n gyflym os nid yw'n dderbyniol. Mae'r gweinyddwyr yn edrych ar erthyglau sydd newydd gael eu creu.
- Dilëir erthyglau sydd ddim yn cwrdd â chanllawiau amlygrwydd a ddim yn dynodi ffynonellau cyhoeddedig dibynadwy fel arfer.
- Peidiwch â chreu tudalennau amdanoch chi eich hunan, eich cwmni, eich band neu'ch ffrindiau, neu dudalennau sy'n hysbysebu, neu draethodau personol neu erthyglau sy'n anaddas mewn gwyddoniadur.
- Gan bwyll gyda'r canlynol: copïo pethau, cynnwys dadleuol, erthyglau hynod fyr ac erthyglau o ddiddordeb lleol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Eich erthygl gyntaf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.