Tref a phorthladd yn Oblast Leningrad yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Vyborg.
Saif ar Fae Vyborg yng Ngwlff y Ffindir, yng Nghuldir Carelia. Lleolir rhyw 70 milltir i ogledd-orllewin St Petersburg, nid nepell o'r ffin â'r Ffindir.
Math | tref/dinas, urban settlement in Russia, former municipality of Finland |
---|---|
Poblogaeth | 71,772 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Vyborgskoye Urban Settlement |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 160.847 km² |
Uwch y môr | 3 metr |
Cyfesurynnau | 60.7106°N 28.7497°E |
Cod post | 188800–188811 |
Anheddwyd yr ardal ers y 12g, a chodwyd caer Viborg ar y safle gan luoedd Sweden ym 1293, wedi iddynt feddiannu Carelia yn Nhrydedd Groesgad y Swediaid. Cipiwyd y gaer gan fyddin Pedr I, tsar Rwsia, ym 1710 yn ystod Rhyfel Mawr y Gogledd. Daeth dan reolaeth y Ffindir ym 1918, a fe'i ailenwyd yn Viipuri. Cafodd ei ildio i'r Undeb Sofietaidd ym 1940 yn sgil Rhyfel y Gaeaf. Er i luoedd y Ffindir a'r Almaen feddiannu'r dref o 1941 i 1944, dychwelodd i reolaeth y Sofietiaid, ac wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd cafodd ei ail-adeiladu.
Mae Vyborg yn borthladd pwysig ar gyfer pysgota, ac hefyd yn meddu ar sawl iard i drwsio llongau. Mae diwydiannau eraill y dref yn cynnwys y felin lifio, gwneud dodrefn, a gweithgynhyrchu peiriannau ac offer trydanol. Denir hefyd dwristiaid gan draethau ac iechydfeydd Vyborg.
Gostyngodd y boblogaeth o 81,000 ym 1989 i 78,000 yn 2006.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Vyborg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.