Awdures Americanaidd yw Susan Faludi (/fəˈluːdi/; ganwyd 18 Ebrill 1959) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ffeminist a newyddiadurwr.
Mae'n briod â'i chyd-awdur Russ Rymer.
Susan Faludi | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ebrill 1959 Queens |
Dinasyddiaeth | Hwngari Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, newyddiadurwr, ffeminist |
Priod | Russ Rymer |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Gwefan | http://susanfaludi.com/index.html |
Fe'i ganed yn Queens, bwrdeisdref yng ngorllewin Dinas Efrog Newydd ar 18 Ebrill 1959. Enillodd Wobr Pulitzer am Newyddiaduraeth Esboniadol ym 1991, am adroddiad ar bryniant isel Safeway Stores, Inc., adroddiad roedd gweinyddwyr pwyllgor Gwobr Pulitzer yn ei ganmol am ddarlunio "effaith negyddol arian ar ddyn". Derbyniodd Wobr Kirkus yn 2016 hefyd am In the Darkroom.
Ganwyd hi i Marilyn (Lanning), newyddiadurwr, a Stefánie Faludi (a alwyd wedyn yn Steven Faludi) a oedd yn ffotograffydd. Roedd Stefánie Faludi wedi ymfudo o Hwngari, yn Iddew ac yn oroeswr yr Holocost, a ddatgelodd ei bod yn drawsrywiol ac yn fu farw yn 2015. Mae gan Susan Faludi ddinasyddiaeth ddeuol: UDA a Hwngari.
Graddiodd Susan o Brifysgol Harvard gydag A.B. summa cum laude yn 1981, lle cafodd ei hethol i Phi Beta Kappa ac ysgrifennodd ar gyfer The Harvard Crimson, a daeth yn newyddiadurwr, gan ysgrifennu ar gyfer The New York Times, Miami Herald, Atlanta Journal Constitution, San Jose Mercury News, a The Wall Street Journal a nifer o gyhoeddiadau eraill.
Trwy gydol yr 1980au, ysgrifennodd Faludi sawl erthygl ar ffeministiaeth a pahm fod pobl yn gwrthwynebu'r mudiad. Wrth weld patrwm yn dod i'r amlwg, ysgrifennodd Faludi Backlash, a ryddhawyd ddiwedd 1991. Yn 2008–2009, fe'i gwnaed yn gymrawd yn y Radcliffe Institute for Advanced Study, ac yn ystod blwyddyn academaidd 2013–2014, hi oedd yr Ysgolhaig Tallman yn y Rhaglen Astudiaethau Rhyw a Menywod yng Ngholeg Bowdoin. Ers Ionawr 2013, mae Faludi wedi bod yn olygydd cyfrannol i'r cylchgrawn The Baffler yn Cambridge, Massachusetts. Yn 2017, dyfarnwyd iddi radd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Stockholm yn Sweden.
Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Susan Faludi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.