Tref yn neheudir Gwlad yr Iâ yw Selfoss.
Saif ar lannau'r afon Ölfusá. Mae'n ganolfan weinyddol bwrdeistref Árborg. Mae'r gylchffordd enwog, Ffordd Rhif 1, yr ynys (Islandeg: Hringvegur) yn rhedeg drwy'r dref ar ei ffodd rhwng Hveragerði a Hella. Mae'r dref yn ganolfan masnach a diwydiant bychan gyda phoblogaeth o 7,130 (1 Ionawr 2017), gan ei gwneud y ganolfan drefol fwyaf yn ne Gwlad yr Iâ.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 9,624 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Árborg |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 2,000,000 m² |
Uwch y môr | 9 metr |
Yn ffinio gyda | Flúðir |
Cyfesurynnau | 63.932169°N 21.000228°W |
Mae'n ganolfan boblogaeth gyda thwristiaid gan ei bod yn agos i atyniadau megis y Þingvellir a llosgfynydd Hekla.
Lleolir y dref tua 11 km i mewn i'r tir o arfordir de orllewin Gwlad yr Iâ a 50 km o'r brifddinas, Reykjavík. Yn ogystal â bod yn brif dref bwrdeisdref Árborg mae hefyd yn brif dref gweinyddol Rhanbarth Suðurland (Rhanbarth y De). Y trefi agosaf yw Eyrarbakki, Stokkseyri a Hveragerði.
Er mai 'rhaeadr' yw ystyr foss does dim rhaeyn y dref.
Setlwyd Selfoss gan Þórir Ásason rywbryd ar ôl y flwyddyn 1000; Fodd bynnag, mae sagas Gwlad yr Iā yn sôn i Ingolfur Arnarson fod yno yn ystod y gaeaf o 873-74 o dan fynydd Ingolfsfjall, sydd i'r gorllewin o afon Ölfusá.
Yn haf 1891, oherwydd lobïo Tryggvi Gunnarsson, aelod o'r Alþing, adeiladwyd y bont grog dros yr Ölfusá. Roedd hwn yn ddatblygiad strwythurol fawr yn hanes Gwlad yr Iâ. Gwnaeth y bont y dref yn ganolfan dref rhesymegol ar gyfer gwasanaethu y rhanbarth amaethyddol o'i chwmpas. Adeiladwyd y bont bresennol yn 1945 ar ôl i'r strwythur gwreiddiol ddymchwel.
Ym 1900 roedd y dref yn gartref i dim ond 40 o drigolion, ond erbyn 2011 roedd y boblogaeth wedi dringo i 6,500 ac yn 2017 yn 7,130.
Yn 1931 sefydlwyd y cwmni llaeth Mjólkurbú Flóamanna a'r siop gyffredinol Kaupfélag Árnesinga. Y ddau gwmni hyn oedd prif gyflogwyr yr ardal ers sawl degawd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd milwyr Prydain yn Selfoss i warchod y bont strategol.
Heddiw, gyda system drafnidiaeth well, mae Selfoss yn elwa o'i agosrwydd i ardal Reykjavík Fawr a rhagwelir y bydd yn tyfu ymhellach yn y blynyddoedd nesaf wrth i fusnesau a thrigolion adleoli i'r dref oherwydd prisiau eiddo iss. Mae Foss yn gartref i un o'r colegau mwyaf yn y wlad; FSU Fjölbrautaskóli Suðurlands.
Bob dechrau mis Awst, mae'r dref yn cynnal gŵyl o'r enw "Sumar á Selfossi" ('Haf yn Selfoss'). Mae trigolion lleol yn addurno eu gerddi â rhubanau, wedi'u lliwio yn ôl y gymdogaeth, a chynhelir garddwest ar y glaswelltir cyhoeddus y tu ôl i'r llyfrgell ddinesig. Mae'r ffair yn cynnwys gwerthu nwyddau cartref o stondinau bychain, perfformiadau gan gerddorion, ac yn 2011, cynhaliwyd cystadleuaeth "Y Dyn Cryfa, a recordiwyd gan sianel Stöð 2. Yn y noson, Mae gwyliau'n parhau tân mawr ac arddangosfa tân gwyllt am ddim.
Hunanoss yw'r dref lle claddwyd y cyn-Hyrwyddwr Byd Gwyddbwyll Bobby Fischer.
Dioddefwyd daeargryn o gryfder 6.3 ger Selfoss ar brynhawn Iau 29 Mai 2008. Ni niewidiwyd neb ddifrifol ond achoswyd difrod sylweddol i rai adeiladau a ffyrdd. Teimlwyd y daeargryn ar draws de'r ynys gan gynnwys Reykjavík a Maes Awyr Keflavík. Anafwyd 30 person ond ni laddwyd neb ond bu farw sawl dafad.
Tîm pêl-droed y dref yw UMF Selfoss, a sefydlwyd yn 1936 ac sydd wedi chwarae yng nghyngreiriau Gwlad yr Iâ er 1966. Bu'r clwb am ddau dymor yn uwch gynghrair y wlad, yr Úrvalsdeild, yn 2010 and 2012.
Clwb pêl-fasged broffeisynol y dref yw FSu, sydd wedi chwarae yn Adran 1 a'r Uwch Gynghrair. Ceir hefyd tîm uwchgynghrair yn pêl-llaw.
O bosib y person enwocaf o Selfoss yw'r gantores Björk a fu'n byw yno pan yn blentyn. Ymysg pobl adnabyddus eraill y dref mae:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Selfoss, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.