Santes oedd Eiluned neu Eluned un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.
Ei gwylmabsant yw 1 Awst.
Santes Eiluned | |
---|---|
Ffenestr yn darlunio Eluned, yng Nghadeirlan Aberhonddu | |
Ganwyd | 5 g Teyrnas Brycheiniog |
Bu farw | o pendoriad |
Man preswyl | Aberhonddu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 1 Awst |
Tad | Brychan |
Mae nifer o amrywiaethau o'i henw: Eiliueth (o'r Cognatio) Elvetha (Lladin) ac Almedha (Sacsoneg) yn arwain at Eiluned, Elwedd ac Aled mewn Cymraeg cyfoes, ond maent i gyd yn cyfeirio at yr un ddynes. 'Eiluned' yw'r sillafiad a ddefnyddiai Lewis Glyn Cothi yn ei gerddi (Gwaith, 1837 t.88) a chytunai Ifor Williams gyda hyn (gweler LBS II.419 n.1.). 'Aelivedha' yw enw Gerallt Gymro arni.
Fel un o ferched Brychan Brycheiniog, oedd yn etifeddu tir roedd Eiluned yn tynnu sylw fel priodferch posibl. Roedd pennaeth llwyth cyfagos yn dymuno'i phriodi a bu raid iddi ddianc rhagddo gan y ceisiai ei gorfodi hi i'w briodi.
Cysylltir Eiluned yn bennaf gyda thref Aberhonddu. Adeiladwyd y gadeirlan Normanaidd sy'n dwyn yr enw Sant Ioan yr Efengylydd, ar safle hen eglwys Celtaidd ar fryn uwchben y dref. Yn ymyl mae'r ffynnon a elwir 'Ffynnon y Priordy', heddiw. Mae'n debyg fod y ffynnon hon a'r llan gwreiddiol wedi'u henwi ôl Eiluned. Sefydlodd Eiluned ddwy llan arall: un yn Llaneleu, tair milltir o Garth Madryn. Heddiw mae'r eglwys yn dwyn yr enw Elliw, santes o'r 6g, ond cofnododd William o Gaerwrangon, yn y 15g fod Eiluned wedi byw 14 milltir o'r Henffordd. Mae Llaneleu tua 14 milltir o Henffordd. Sefydlodd hithau Llanelwedd hefyd (ailgysegrwyd yr eglwys i Sant Mathew yn ddiweddarach.) Lladdwyd Eiluned gan lwyth paganaidd ger Aberhonddu. Rholiodd y pen a bwrw yn erbyn carreg y Maendu, ac fe darddodd ffynnon yn y man. Adnewyddwyd y ffynnon hon yn yr 20g a gellir ei gweld heddiw yn ymyl Maes y Ffynnon. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd wrth ei chreirfa yn fuan ar ôl ei merthyrdod.
Yn 1188 disgrifiodd Gerallt Gymro ŵyl blynyddol mewn capel a gysegrwyd iddi tua tair milltir o Aberhonddu; gweler ei lyfr Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru). Dywedir fod llawer wedi eu hiacháu trwy ffydd ar ddydd ei gŵyl a pharhaodd y werin i ddathlu 'Gŵyl Eiluned' trwy yr Oesoedd Canol er gwaethaf ymdrechion yr Eglwys Gatholig i droi eu sylw at saint Beiblaidd. Peidiodd ei gŵyl o ganlyniad i'r Diwigiad Mawr a throwyd y capel yn ysgubor, a dadfeiliodd.
Cydnabuwyd cysylltiad Eiluned â thref Aberhoddu yn Oes Fictoria pan osodwyd ffenestr liw yn dangos Eluned (Aled) yn nghapel Cain yn y Cadeirlan.
Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Santes Eiluned, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.